Newyddion S4C

Teyrngedau i Charles Arch ‘llais y Sioe Frenhinol’ sydd wedi marw yn 89 oed

07/07/2024

Teyrngedau i Charles Arch ‘llais y Sioe Frenhinol’ sydd wedi marw yn 89 oed

Mae Charles Arch, ‘llais y Sioe Frenhinol’, wedi marw yn 89 oed.

Roedd yr amaethwr o Geredigion wedi bod yn sylwebydd yn y Sioe Frenhinol yn Llanelwedd ers 1980.

Y bwriad oedd ei fod yn agor y sioe eleni wrth i Geredigion noddi'r sioe.

Cafodd ei fagu ar Fferm Mynachlog gerllaw Mynachlog Sistersaidd Abaty Ystrad Fflur.

Bu'n weithgar ym maes y cobiau Cymreig a fel trefnydd gyda'r Ffermwyr Ifanc ym Maldwyn.

Cyhoeddodd hunangofiant Byw dan y Bwa wedi ei hysgrifennu ar y cyd â Lyn Ebenezer yn 2018.

Roedd yn aelod o'r Orsedd a cafodd ei anrhydeddu gydag MBE am ei gyfraniad i amaethyddiaeth.

'Parch mawr'

Wrth dalu teyrnged iddo dywedodd Lyn Ebenezer ei fod wedi ei nabod ers dyddiau’r ffermwyr ifanc yn y 50au.

“Roedd o’n berffeithydd a bob tro yn gwneud ei orau bob amser,” meddai wrth Newyddion S4C

“Roedd rhaid gwneud y gorau neu ddim o gwbl.

“Os oedd yn cymryd at jobyn roedd yn cymryd y peth yn ddifrifol iawn - doedd hanner job ddim yn ddigon da.

“Roedd gen i barch mawr ato ac roedd yn rhoi hyder ynddon ni fel criw.

“Roedd o’n falch iawn o’r cysylltiad efo Ystrad Fflur ac yn nabod y tir o’i amgylch fel cefn ei law.

“Mae talp mawr o hanes lleol wedi mynd ag e, a diolch byth ei fod wedi cofnodi'r peth mewn dwy gyfrol cyn mynd.

“Roedd yn llawn bywyd ac er ei fod bron yn 90 oed yn hynod o ffit nes wythnosau olaf ei fywyd.”

Dywedodd ei fod yn teithio llawer ac roedd Lyn Ebenezer, Charles Arch a John Nantllwyn wedi mynd i America a chymryd rhan mewn cystadleuaeth Dynion Moel America tra eu bod nhw yno.

Roedden nhw wedi cystadlu fel Moelion Gwalia ac wedi ennill pedair gwobr.

“Roedd criw ohonom ni’n mynd bob blwyddyn i’r gwledydd Celtaidd, yn mynd i wahanol ardaloedd a dringo mynyddoedd ac roedd yn ein gadael ni ar ôl,” meddai Lyn Ebenezer.

“Mi aeth o’n sydyn iawn mewn ychydig wythnose o ddyn cwbl iach i ddim byd.”

Mae'n gadael ei wraig gweddw Mari a dau o blant, Ifer a Mererid.

Llun gan y Lolfa.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.