
Pedair blynedd o garchar i yrrwr am achosi marwolaeth seren triathlon
Mae dyn o’r Fenni fu mewn gwrthdrawiad a laddodd y seren triathlon Rebecca Comins wedi’i ddedfrydu i bedair blynedd yn y carchar.
Cafwyd Vasile Barbu, 49 oed, yn euog o achosi marwolaeth drwy yrru’n beryglus yn Llys y Goron Caerdydd ar 7 Mehefin.
Mae bellach wedi’i ddedfrydu i bedair blynedd yn y carchar yn ogystal â’i atal rhag gyrru am bedair blynedd.
Roedd Barbu yn gyrru fan Vauxhall Movano wen ar ffordd yr A40 ger Rhaglan ar ddydd Iau 2 Mehefin cyn bod mewn gwrthdrawiad gyda Rebecca Comins.
Bu farw Rebecca Comins yn y fan a'r lle.

Dywedodd y prif swyddog Shane Draper o Heddlu Gwent: “Roedd Rebecca yn seiclwr profiadol a thalentog – mi wnaeth hi bopeth yn ei gallu er mwyn cadw’n ddiogel ar y ffyrdd.
Ychwanegodd bod angen i'r digwyddiad fod yn rybudd i yrrwyr.
“Rydych chi’n gyfrifol am beiriant all fod yn beryglus. Eich cyfrifoldeb chi yw hi i sicrhau eich diogelwch eich hunain, a phawb o'cjh cwmpas.”
Yn dilyn euogfarn Vasile Barbu y mis diwethaf, roedd teulu Ms Comins wedi rhoi teyrnged iddi gan ddweud eu bod yn “mor falch o’r hyn a gyflawnodd yn ei bywyd.”