Penodi Rachel Reeves ac Angela Rayner i ddwy o brif swyddi'r Llywodraeth
Mae Rachel Reeves wedi ei phenodi'n Ganghellor y Trysorlys, y ferch gyntaf erioed i gael y swydd.
Dechreuodd Keir Starmer ddewis aelodau o'i Gabinet o fewn dwyawr i gael ei gadarnhau fel Prif Weinidog.
Mae Ms Reeves yn gyn-economegydd gyda Banc Lloegr. Mewn neges ar X, dywedodd: "I bob merch ifanc a dynes sy'n darllen hwn, gadewch i heddiw ddangos nad oes angen rhoi unrhyw ddiwedd ar eich uchelgais."
Angela Rayner fydd y Dirprwy Brif Weinidog, y ferch gyntaf i ddal y swydd yna hefyd. Ms Rayner hefyd fydd yr Ysgrifennydd Gwladol dros Gymunedau a Thai.
Y prif benodiadau eraill yw David Lammy fel Ysgrifennydd Tramor, Yvette Cooper yn Ysgrifennydd Cartref, a John Healey yn Ysgrifennydd Amddiffyn. Wes Streeting yw'r Ysgrifennydd Iechyd newydd