Canlyniadau 'hynod anodd a niweidiol' i'r SNP
Mae’r SNP wedi colli 38 o seddi yn yr Etholiad Cyffredinol, gyda’r Blaid Lafur yn ennill y mwyafrif o etholaethau yn yr Alban.
Dan arweiniad Anas Sarwar, mae Llafur wedi llwyddo i ennill 36 o seddi, gan gynnwys holl seddau’r SNP yng Nghaeredin a Glasgow.
Mae Prif Weinidog yr Alban, John Swinney o SNP wedi dweud y bydd angen cyfnod o ‘ystyried dwys’ ar y blaid yn sgil canlyniadau ‘hynod anodd a niweidiol’.
Roedd yr SNP yn amddiffyn 48 allan o 57 o seddi yn Yr Alban, ond fe gafodd y blaid eu canlyniadau gwaethaf ers 2010, tra bod cyfradd Llafur o’r bleidlais wedi cynyddu 20%.
Fe wnaeth arweinydd yr SNP yn San Steffan, Stephen Flynn lwyddo i ddal gafael ar ei sedd, ond fe gollodd y dirprwy arweinydd, Kirsten Owen, yn ei hetholaeth.
Fe wnaeth arweinydd Ceidwadwyr yr Alban, Douglas Ross, fethu yn ei ymgais i gael ei ethol yn San Steffan, gan golli i’r SNP yn etholaeth Aberdeenshire North and Moray East.
Dywedodd Mr Swinney wrth y BBC ar ddechrau'r noson: “Er ein bod ni’n mynd i gael canlyniad etholiad gwael heno, dwi’n dal i gredu yn fy mhen ac yn fy nghalon y bydd yr Alban ar ei hennill fel gwlad annibynnol.
“Ond yn amlwg dydyn ni ddim yn ennill y ddadl yna gyda’r cyhoedd i wneud hynny’n flaenoriaeth ar hyn o bryd, felly mae’n rhaid i ni feddwl yn hir ac yn galed am sut rydyn ni’n mynd i’r afael â’r cwestiwn hwnnw.”
Dywedodd Mr Sarwar ei fod yn "hynod hapus" gyda pherfformiad y blaid, gan ddiolch i bobl yr Alban am "roi eu ffydd a'u hymddiriaeth ym mhlaid Llafur yr Alban."
"Dw i'n adnabod eu hawch am newid, dw i'n gwybod y bydd ochenaid enfawr o ryddhad ein bod ni wedi llwyddo i ddod a 14 o anrhefn a methiant llwyr i ben."
Roedd yn cydnabod na fydd yn hawdd i'r Llywodraeth Lafur, ond fe wnaeth addo y byddai'r blaid yn "mynd i waith ar unwaith."