Newyddion S4C

Y Ceidwadwyr yn y gwyll gwleidyddol yng Nghymru

rishi colli.png

Mae'r Ceidwadwyr wedi colli pob un o'u seddi yng Nghymru yn yr Etholiad Cyffredinol. 

Cafodd etholaeth Pen-y-bont ar Ogwr ei cholli i Lafur, gyda Chris Elmore yn sicrhau mwyafrif o 8,595. 

Mae'r Ysgrifennydd Cymru presennol, David TC Davies, a thri o gyn-ysgrifenyddion Cymru, Alun Cairns, Simon Hart a Stephen Crabb, i gyd wedi colli eu seddi, yn Sir Fynwy, Bro Morgannwg, Caerfyrddin a Chanolbarth a De Sir Benfro. 

Fe gipiodd Plaid Cymru sedd Ynys Môn gan y Ceidwadwyr, gyda Llinos Medi yn hawlio 10,590 pleidlais a Virginia Crosbie yn derbyn 9,953 o'r pleidleisiau. 

Collodd y Ceidwadwyr i Blaid Cymru unwaith yn rhagor yn etholaeth Caerfyrddin, gydag Ann Davies yn hawlio mwyafrif o 4,535.

Mae Darren Millar wedi colli ei sedd yng Ngogledd Clwyd, gyda Gill German yn sicrhau mwyafrif o 1,196 i'r blaid Lafur. 

Mae'r lliw wedi newid yn etholaeth Bangor Aberconwy hefyd, gyda Claire Hughes yn fuddugol i Lafur gyda mwyafrif o 4,896. 

Mae'r Ceidwadwyr wedi colli sedd Aberhonddu, Maesyfed a Chwm Tawe i'r Democratiaid Rhyddfrydol.

Mae gan y Democratiaid Rhyddfrydol etholaeth yng Nghymru am y tro cyntaf ers 2017.

Mae Craig Williams o'r Ceidwadwyr wedi colli ei sedd ym Maldwyn a Glyndŵr i'r Blaid Lafur.

Dyma'r tro cyntaf erioed i Lafur ennill Maldwyn, yr unig etholaeth yng Nghymru nad oedden nhw erioed wedi ei hennill.

Mae Llafur hefyd wedi cipio Dwyrain Clwyd gan y Ceidwadwyr. 

Yr un oedd yr achos yn Wrecsam, gyda Llafur yn cipio'r etholaeth gan y Ceidwadwyr gyda mwyafrif o 5,948. 



 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.