Annog plant i ddarllen yn ystod gwyliau'r haf heb orfod talu'r un geiniog
Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi cynllun i annog plant i ddarllen yn ystod gwyliau'r haf - a hynny'n rhad ac am ddim.
Bydd pob plentyn rhwng pedair ac 11 oed yn gallu mynd i'w llyfrgell leol a chofrestru ar gyfer Sialens Ddarllen yr Haf.
Bydd modd iddyn nhw ddewis chwe llyfr, a chael tystysgrif unwaith y byddan nhw wedi cwblhau'r sialens.
Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, Lynne Neagle: "“Dw i’n gwybod beth yw’r pleser mawr sy’n dod o ymgolli mewn llyfr.
"Mae Sialens Ddarllen yr Haf yn ffordd wirioneddol wych i blant ddatblygu sgiliau darllen, darganfod awduron newydd a meithrin cariad angerddol at lyfrau a fydd yn para am byth.
“Dyna pam ein bod ni’n cyllido’r cynllun hwn unwaith eto eleni, i wneud yn siŵr bod pob plentyn yn cael cyfle i barhau i ddarllen yn ystod gwyliau’r haf."
Thema'r sialens eleni ydy 'Crefftwyr Campus' gyda rhestr newydd o lyfrau i'w darganfod gan Gyngor Llyfrau Cymru.
Mae amryw o lyfrgelloedd ar draws Cymru yn cynnig digwyddiadau gwahanol a gweithgareddau i blant a theuluoedd i'w mwynhau am ddim drwy gydol yr haf.
Ychwanegodd Pennaeth Llyfrau Plant a Hyrwyddo Darllen yng Nghyngor Llyfrau Cymru, Bethan Jones: "Eleni, mae thema wych i Sialens Ddarllen yr Haf, sy’n sicr o ryddhau grym creadigol drwy ddarllen.
"Mae’r Sialens yn gyfle bendigedig i ddarganfod llyfrau, awduron ac arlunwyr newydd yn ogystal â gwneud y mwyaf o’r gwasanaethau a’r gweithdai rhagorol o fewn y Llyfrgell leol – a’r cyfan yn rhad ac am ddim!”