Newyddion S4C

Powys: Defnyddio deddfwriaeth gwrth-gaethwasiaeth i daclo rhwydweithiau cyffuriau

Heddlu Dyfed-Powys

Mae menyw o Landrindod wedi cael gorchymyn risg caethwasiaeth a masnachu pobl o ganlyniad i’w hymddygiad o gwmpas plant.

Clywodd Llys yr Ynadon Llandrindod bod Lisa Meredith yn risg i bobl ifanc yn yr ardal gyda phryder ei bod hi'n defnyddio neu ecsploetio plant i symud cyffuriau rhwng trefi gwahanol.

Dyma'r gorchymyn interim cyntaf o'i fath o fewn dalgylch Heddlu Dyfed Powys a gafodd ei ganiatáu yn dilyn tystiolaeth gan y llu.

Mewn datganiad dywedodd yr heddwas PC Barrett, a arweiniodd yr achos bod Lisa Meredith yn adeiladu perthynas gyda phobl ifanc er mwyn eu hecsploetio.

"Mae Meredith dan amheuaeth o ecsploetio pobl ifanc trwy fagu perthynas gyda nhw a'u cael nhw i chwarae rhan ym myd cyffuriau.

"Mae nifer o adroddiadau sydd wedi cydnabod nifer o bobl ifanc yn mynychu ei chartref a bod Meredith yn teithio gyda nhw i drefi eraill ar drafnidiaeth gyhoeddus.

"Codwyd pryderon gan rieni bod Meredith yn defnyddio eu plant i symud cyffuriau rhwng tai.

"Mae ganddi gylch mawr o bobl sydd wedi ei gysylltu â defnyddio a dosbarthu cyffuriau ac mae pob un ohonynt yn hysbys i'r llu. Mae hwn yn cynyddu'r risg i bobl ifanc sydd yn ei hadnabod."

'Disytyrwch llwyr'

Clywodd y llys fod Meredith yn un o'r prif gysylltiadau mewn cyflenwad rhwydwaith cyffuriau sirol, a gafodd ei amharu yn gynharach eleni.

Fe ddaeth yn amlwg ei bod wedi cael rhybuddion cipio plant mewn cyswllt â phedwar o blant yn barod.

Roedd termau'r gorchymyn hyn wedi'u torri, gan arwain at gais am orchymyn risg caethwasiaeth a masnachu mewn pobl gan yr heddlu.

“Mae swyddogion wedi ceisio diogelu’r rhai sydd wedi’u nodi mewn perygl gan Meredith ac wedi cyflwyno rhybuddion cipio plant, ond mae ei hagwedd a’i diystyrwch llwyr i’r broses hon yn ychwanegu at ein pryder," meddai PC Barrett.

“Nid yw’n gwerthfawrogi’r risg y mae’n ei achosi i’r plant hyn yn y gymuned.”

Rhoddodd y llys orchymyn interim i'r llu, sef y cyntaf i Heddlu Dyfed-Powys ei weithredu.

Bydd cais am orchymyn llawn yn cael ei wneud pan ddaw hyn i ben yn ddiweddarach y mis hwn, meddai'r llu.

'Cyfyngu'n ddifrifol'

Mae'r gorchymyn yn gwahardd Meredith rhag cael unrhyw gyswllt neu gyfathrebu heb oruchwyliaeth ag unrhyw blentyn o dan 18 oed, ac eithrio ei theulu agos neu lle nad yw'n rhesymol y gellir ei osgoi yn ystod ei bywyd bob dydd.

Mae hefyd yn ei gwahardd rhag trefnu neu hwyluso teithio i unrhyw berson o dan 18 oed, darparu llety i unrhyw berson o dan 18 oed a darparu ffôn symudol neu ddyfais gyfathrebu arall i unrhyw berson o dan 18 oed.

Ychwanegodd PC Jamie Morris, swyddog gorchmynion sifil yr heddlu: “Dyma’r gorchymyn risg caethwasiaeth a masnachu mewn pobl cyntaf i Heddlu Dyfed-Powys wasanaethu ar unigolyn, a’n gobaith yw y bydd yn lleihau’r risg ar hyn o bryd i blant sydd mewn cysylltiad â Meredith.

“Trwy roi gorchymyn yn ei le rydym yn cyfyngu’n ddifrifol ar y cyswllt y mae Meredith yn cael ei gael gyda phobl ifanc, gyda’r bygythiad o ddedfryd o garchar os yw’r gorchymyn yn cael ei dorri.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.