Cefnogaeth i Reform UK ar yr un lefel â'r Ceidwadwyr yng Nghymru, yn ôl arolwg barn
Mae cefnogaeth i’r Ceidwadwyr wedi cwympo i’r lefel isaf ar gofnod yng Nghymru, yn ôl arolwg barn sydd yn awgrymu eu bod yn gyfartal â Reform UK.
Mae arolwg Barn Cymru, gan YouGov ar ran ITV Cymru a Phrifysgol Caerdydd, yn rhagweld y bydd gan y ddwy blaid gyfran o 16% o bleidleisiau etholwyr, yr un.
Pe bai hynny'n digwydd yn yr Etholiad Cyffredinol ddydd Iau, dyma fyddai'r lefel isaf o gefnogaeth i’r Ceidwadwyr, ac yn llai na 1997 (19.6%) pan na chafodd unrhyw AS Ceidwadol eu hethol.
Cafodd 1,072 o oedolion ar draws Cymru eu holi yn yr arolwg, gan ofyn pwy fyddai'n cael eu pleidlais yn etholiad San Steffan ac etholiad Senedd Cymru.
Er bod y pôl piniwn yn awgrymu y bydd y Blaid Lafur yn ennill yr Etholiad Cyffredinol, mae cefnogaeth i’r blaid yn San Steffan wedi cwympo 5% i 40%.
Roedd cwymp hefyd yn y gefnogaeth i Lafur mewn etholiad o’r Senedd, gyda’r gyfran yn gostwng 3% i 27%.
'Colled Hanesyddol'
Dywedodd Dr Jac Larner o Ganolfan Llywodraethiant Cymru ym Mhrifysgol Caerdydd: “Mae’r canlyniadau yn ergyd enfawr i’r Ceidwadwyr, gyda 16% yn unig o ymatebwyr yn dweud y byddent yn pleidleisio drostynt ddydd Iau.
"Dyma’r arolwg YouGov gwaethaf erioed i’r blaid yng Nghymru, ac os y byddai hynny'n digwydd ar ddiwrnod yr etholiad, dyma fyddai perfformiad gwaethaf y Ceidwadwyr yng Nghymru ers yr Etholiad Cyffredinol yn 1918.
“Tra bod niferoedd Llafur tua’r un peth â 2019, sef yr etholiad pan suddodd y blaid i’w nifer lleiaf o seddi mewn degawdau, fe fyddan nhw’n wynebu gwrthwynebiad llawer gwannach yn y mwyafrif o seddi, o ganlyniad i gwymp y Ceidwadwyr.
“O ganlyniad, gallant ddisgwyl gwneud enillion sylweddol yn y seddi Ceidwadol presennol ond efallai na fyddant yn llwyddo gystal yn nwy sedd ymylol Plaid Cymru - Llafur: Ynys Môn a Chaerfyrddin.
Yn ôl Dr Jac Larner, mae'n ymddangos fod plaid Reform UK yn elwa yn sgil sefyllfa'r Ceidwadwyr.
“Mae'r blaid wedi manteisio ar gwymp cefnogaeth y Ceidwadwyr gyda bron i draean o bleidleiswyr blaenorol y Ceidwadwyr bellach yn dweud y byddan nhw'n pleidleisio dros Reform.
“Tra eu bod yn annhebygol iawn o herio am unrhyw seddi yng Nghymru, mae'n bosib y byddan nhw yr ail blaid fwyaf o ran cyfran y bleidlais yng Nghymru, wedi'r etholiad.
“Fel gyda phob arolwg barn, mae'n bwysig cofio bod gwallau yn bosibl, a dim ond un arolwg barn yw hwn. Ond mae’n gyson â thueddiadau ehangach mewn polau Barn Cymru blaenorol a thueddiadau pleidleisio’r DU sy’n awgrymu fod y Ceidwadwyr ar drywydd colled hanesyddol.”