
Gorsaf fysiau newydd Caerdydd yn agor yn swyddogol bron i 10 mlynedd ers cau'r hen un
Gorsaf fysiau newydd Caerdydd yn agor yn swyddogol bron i 10 mlynedd ers cau'r hen un
Mae gorsaf fysiau newydd Caerdydd wedi agor yn swyddogol bron i 10 mlynedd ers cau'r hen un.
Cafodd Cyfnewidfa Fysiau Caerdydd ei hagor yn swyddogol ddydd Sul 30 Mehefin gyda gwasanaethau eisoes wedi cychwyn yn y brifddinas yn ystod y bore.
Wedi ei leoli ger gorsaf trenau Caerdydd Canolog, mae'r orsaf fysiau yn cynnwys 14 bae bws, 100,000 troedfedd sgwâr o ofod swyddfeydd, unedau manwerthu a 318 o fflatiau.
Hefyd bydd dau fusnes wedi eu lleoli o fewn yr unedau masnachol yn yr adeilad, er nad oes dyddiad penodol ar gyfer hyn eto.

Wrth siarad fore Sul dywedodd Prif Swyddog Cwsmeriaid a Diwylliant Trafnidiaeth Cymru Marie Daly bod y gyfnewidfa yn un "anhygoel."
"Mae’r gwasanaethau byddwn yn rhedeg wedi cychwyn rhedeg yn gynharach ddydd Sul ac mae’n ddechrau’r daith i gynnig modd mwy integredig i drafnidiaeth ar draws Caerdydd o reilffordd i fws," meddai.
"Mae hwn yn gyfleuster anhygoel mewn gwirionedd ar gyfer ein cwsmeriaid. Wrth i chi gerdded o gwmpas y gyfnewidfa bydd hi’n bosib gweld llawer o wybodaeth sydd ar gael i gwsmeriaid.
"Gallwch weld gwybodaeth byw am ein bysiau a fydd yn cael ei gefnogi gan ein swyddogion a fydd yma yn y gyfnewidfa yn cefnogi cwsmeriaid."