Newyddion S4C

Nifer cynyddol o beiriannau fferm yn cael eu dwyn medd NFU Mutual

28/06/2024

Nifer cynyddol o beiriannau fferm yn cael eu dwyn medd NFU Mutual

Buarth fferm yn Nyffryn Clwyd, fis Ebrill. Yn pasio, jac codi baw wedi'i ddwyn o fferm gyfagos.

Un o nifer gynyddol o beiriannau fferm sydd wedi'i ddwyn yn ôl NFU Mutual sy'n dweud bod cost trosedd cefn gwlad wedi codi nôl i'r hyn yr oedd o cyn y pandemig.

"Ie, dim ond ddoe oeddan ni'n clywed ar Facebook bod quad wedi'i ddwyn."

Draw yn Llanuwchllyn ger Y Bala mae Cari Sioux a'i theulu wedi bod yn helpu'r heddlu gyda lladrad.

Mae dros flwyddyn ers iddynt ddioddef profiad tebyg eu hunain.

"Mae hi 'di bod yn brofiad reit anodd. "Dydy rhywun ddim yn cysgu cystal.

"Mae rhyw swn neu rywun gwahanol o gwmpas ceg y buarth... "..mae o reit bwysig bod ni'n gweld lot mwy o heddlu o gwmpas."

Mae dwyn yn gyffredinol wedi bod ar gynnydd ond yn arbennig dwyn o siopau.

Yn ôl y Swyddfa Ystadegau mae'r math yma o droseddu ar ei lefel uchaf ers 20 mlynedd gyda naid o 37% yng Nghymru a Lloegr llynedd.

Tuedd mae rheolwyr siopau yng Nghaernarfon yn cadw golwg arni.

"Dw i'n meddwl bod 'na lai o siopau a dewis iddyn nhw ddwyn.

"Maen nhw'n mynd i siopau gwahanol."

"Nathon ni sylwi bod dau Easter egg reit ddrud wedi mynd... "..so nathon ni checio'r CCTV ac oedden nhw 'di rhedeg i ffwrdd."

"'Dan ni 'di bod yn iawn yma hyd yn hyn.

"'Dan ni'n gwybod bod o ar i fyny."

Ar y cyfan mae cyfanswm y troseddau yn gostwng ers blynyddoedd medd y Swyddfa Ystadegau.

Mae nifer y carcharorion yn dal i gynyddu.

Wythnos dwetha, daeth hi i'r amlwg bod carchardai Cymru a Lloegr bron yn orlawn.

Rhai yn gweld effaith bosib ar y system gyfiawnder yn ehangach.

"Mae'n siwr bod o'n rhoi pwysau ar y llysoedd o ran dim lle yn y carchar.

"Be sy'n digwydd i bobl sy'n cael eu dedfrydu wedyn?

"Bosib y canlyniad ydy bod pobl yn cael suspended sentence... "..lle o bosib bysan nhw wedi cael dedfryd yn syth i'r carchar."

Mi agorodd Carchar y Berwyn yn 2017 i ddal 2,000 o ddynion.

Eleni mae'r Ceidwadwyr yn addo codi rhagor o garchardai newydd.

Maen nhw'n addo plismon i bob cymuned yng Nghymru a rhagor o rym iddynt daclo trosedd cyllyll.

Mae Llafur hefyd yn addo creu rhagor o le mewn carchardai rhoi'r grym i'r heddlu daclo lladrata gwerth llai na £200 ond dydyn nhw'm yn cefnogi datganoli grym dros gyfiawnder yn groes i alwadau Llywodraeth Lafur Cymru.

Mae Plaid Cymru eisiau datganoli grym dros gyfiawnder ac yn addo rhoi rhagor o arian i heddluoedd Cymru a rhagor o gymorth i ddioddefwyr.

Rhai o'r polisiau gan rai o'r pleidiau ar gyfraith a threfn a'r barnwyr yn yr etholiad wythnos i heddiw fydd chi, yr etholwyr.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.