Aled Siôn Davies: 'Roedd gen i gywilydd o fy anabledd' cyn y gemau Paralympaidd

28/06/2024
Aled Davies

Mae'r pencampwr Paralympaidd Aled Siôn Davies wedi dweud bod ganddo "gywilydd" o'i anabledd cyn i gemau Paralympaidd Llundain "newid popeth."

Cafodd y gŵr 33 oed o Ben-y-bont ar Ogwr ei eni gydag anabledd hemimelia sy'n golygu bod asgwrn y ffibwla yn y goes yn fyr neu ar goll, ac roedd ei goes wedi clymu rownd ei wddf pan ddaeth allan o'r groth.

Roedd rhaid i'r doctoriaid dorri ei goes mewn 17 lle gwahanol a bu rhaid torri rhan o'i goes i ffwrdd.

Fe newidiodd ei agwedd tuag at ei anabledd yng Ngemau Paralympaidd Llundain yn 2020, meddai, gyda'i lwyddiant yno  yn arwain at enill tair medal aur ac un fedal efydd yn ystod ei yrfa.

"Roedd gen i gywilydd am fy anabledd erioed," meddai ar bodlediad BBC Cymru Olivia Breen's Paris Diary.

"Ond dwi'n meddwl pan mae pobl yn siarad am [Lundain] 2012 a gwaddol chwaraeon Paralympaidd, dyna oedd wedi newid pethau.

"I fod yn onest, dwi'n cofio'r gystadleuaeth yn mynd yn dda ac roedd Llundain yn anhygoel, ond dwi'n cofio gwneud cyfweliad ar ôl i mi ennill ac edrych lawr ar y Parc Olympaidd a gweld merch fach yn rhedeg.

"Roedd hi tua phump neu chwech oed mae'n debyg, ac roedd hi'n rhedeg ar draws y parc mewn pâr i siorts a dwy goes brostetig ac roeddwn i'n meddwl 'dyna ein gwaddol ni'."

'Hunanymwybodol'

Dywedodd Aled Sion Davies bod ef heb wisgo siorts tan oedd yn 17 oed oherwydd fod ei anabledd yn gwneud iddo geisio cuddio ei gorff.

Mae'n cofio un gystadleuaeth ar ddiwrnod poeth tra'n yr ysgol ac roedd pawb arall yn gwisgo siorts.

"Roeddwn i'n gallu cuddio fy anabledd," meddai.

"Pan oedden ni'n gwneud sesiynau ymarfer corff yn yr ysgol, doeddwn i byth yn gwisgo siorts, roeddwn i'n cuddio fy nghoes os oeddwn i'n gallu.

"Pan es i i fy nghystadleuaeth gyntaf gydag ysgolion Cymru, roeddwn i'n gwisgo trowsus a phawb arall yn gwisgo siorts, ond roeddwn i'n teimlo'n hunanymwybodol.

"Roedd fy hyfforddwr yn dweud wrtha i gymryd y trowsus i ffwrdd, ac wedyn roedd pawb yn edrych arnaf, ond yn lle bod llawn embaras roeddwn i wedi penderfynu bod yn falch ohono."

Llun: X / Aled Davies

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.