Newyddion S4C

Reform UK: Ymgyrchydd yn dweud y dylai cychod mudwyr gael eu defnyddio ar gyfer 'ymarferion saethu'

Andrew Parker Reform

Mae Nigel Farage wedi dweud ei fod wedi cael ei "siomi" ar ôl i un o'i ymgyrchwyr gael ei ffilmio yn dweud y dylai cychod mudwyr cael eu defnyddio ar gyfer "ymarfer saethu".

Daw sylwadau arweinydd plaid Reform UK ar ôl i newyddiadurwr cudd Channel 4 ffilmio ymgyrchwyr dros y blaid yn etholaeth Clacton.

Fe wnaeth ymgyrchydd arall ddweud bod baner Pride yn "llygredig" ac fe awgrymodd bod rhai aelodau o'r gymuned LHDT+ yn bedoffiliaid.

Wrth ymateb fe ddywedodd Mr Farage bod rhai sylwadau dadleuol gan ymgyrchwyr Reform yn gyffredin ymysg y cyhoedd.

"Rydym wedi gweld un neu ddau ymgeisydd yn dweud pethau na ddylen nhw fod wedi dweud,"meddai.

"Ac yn rhan fwyaf o'r achosion maen nhw'n siarad fel pobl arferol.

"Mewn rhai achosion mae un neu ddau berson wedi ein siomi ac rydym ni wedi eu rhyddhau nhw o'r blaid."

Ymgeiswyr Clacton

  • Matthew Bensilum - Y Democratiaid Rhyddfrydol            
  • Nigel Farage - Reform UK
  • Craig Jamieson - Climate           
  • Tony Mack - Annibynnol
  • Natasha Osben - Y Blaid Werdd
  • Jovan Owusu-Nepaul - Y Blaid Lafur           
  • Tasos Papanastasiou - Heritage            
  • Andrew Pemberton - UKIP           
  • Giles Watling - Y Blaid Geidwadol

'Ymddiheuro’n ddiffuant’

Roedd Channel 4 wedi recordio Andrew Parker yn dweud y dylai cychod mudwyr cael ei ddefnyddio ar gyfer hyfforddiant saethu i'r fyddin, a hefyd yn defnyddio iaith hiliol am y prif weinidog, Rishi Sunak.

Disgrifiodd Islam fel "cwlt ffiaidd" hefyd.

Mewn datganiad dywedodd ei fod yn ymddiheuro i Mr Farage a'r blaid am eu sylwadau.

“Hoffwn ei gwneud yn glir nad oedd Nigel Farage yn bersonol na’r Blaid Reform yn ymwybodol o fy marn bersonol ar fewnfudo," meddai.

“Nid wyf erioed wedi trafod mewnfudo gyda Nigel Farage na’r Blaid Reform a fy marn bersonol i oedd y sylwadau a gafodd eu recordio.

“Hoffwn felly ymddiheuro’n ddiffuant i Nigel Farage a’r Blaid Reform os yw fy marn bersonol wedi adlewyrchu’n wael arnyn nhw ac wedi dwyn anfri arnyn nhw gan nad dyna oedd fy mwriad.”

Roedd y Guardian wedi datgan ddydd Iau bod y blaid wedi tynnu eu cefnogaeth yn ôl i ymgeisydd yn Basingstoke, Raymond Saint yn dilyn honiadau iddo ymddangos ar restr o aelodau BNP a gyhoeddwyd ar wefan WikiLeaks fwy na degawd yn ôl.

Mae Mr Farage eisoes wedi dweud ei fod yn rhwystro unrhyw un sy’n gysylltiedig â’r BNP neu sefydliadau tebyg rhag bod yn aelod o’r blaid.

Llun: Channel 4

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.