Newyddion S4C

Neb wedi eu hanafu'n ddifrifol mewn damwain erchyll ar yr A55

27/06/2024
Gwrthdrawiad A55 Llanfairfechan

Mae Heddlu'r Gogledd wedi cyhoeddi diweddariad yn dilyn gwrthdrawiad erchyll rhwng car oedd yn tynnu carafán a lori ar ffordd yr A55 ddydd Mercher.

Fe ddangosodd lluniau camera traffig y car yn gwibio drwy'r awyr ar ôl taro cylchfan ar gyrion Llanfairfechan, cyn glanio yn ochr y lori.

Dywedodd yr heddlu nad oedd neb wedi eu hanafu'n ddifrifol yn ystod y digwyddiad, gyda'r sawl oedd yn y cerbydau'n dioddef man anafiadau'n unig.

Bu tagfeydd hir ar y ffordd i'r gorllewin am rai oriau, cyn iddi gael ei hail-agor yn ddiweddarach.

Llun: Bryn Volts/Facebook

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.