Honiadau betio: Gwahardd ymgeisydd y Blaid Lafur sydd dan ymchwiliad
Mae'r Blaid Lafur wedi gwahardd ymgeisydd ar gyfer yr Etholiad Cyffredinol, Kevin Craig, ar ôl canfod fod y Comisiwn Gamblo wedi lansio ymchwiliad iddo, yn ôl llefarydd ar ran y blaid.
Dywedodd y llefarydd: "Gyda Keir Starmer yn arweinydd, mae gan y Blaid Lafur y safonau uchaf ar gyfer ein hymgeiswyr seneddol, ac mae gan y cyhoedd yr hawl i ddisgwyl hyn gan unrhyw blaid sydd yn gobeithio ffurfio llywodraeth.
"Dyna pam rydym ni wedi gweithredu yn sydyn yn yr achos hwn."
Dywedodd Mr Craig ei fod wedi gosod bet ar ei hun i golli yn ei etholaeth.
Mewn datganiad ar X, dywedodd ei fod yn ymddiheuro ac yn cydymffurfio gyda'r ymchwiliad.
"Dwi'n difaru'r hyn dwi wedi gwneud ac yn derbyn goblygiadau’r penderfyniad twp yma.
Inline Tweet: https://twitter.com/KevinCraigUK/status/1805651841939546448
"Dwi'n ymddiheuro i'r gwirfoddolwyr ymroddgar a theyrngar y Blaid Lafur sydd wedi cefnogi fy ymgyrch. Byddaf yn cydymffurfio’n llawn gyda'r ymchwiliad."
Mae Mr Craig yn ymgeisydd y Blaid Lafur ar gyfer Canol Suffolk a Gogledd Ipswich.
Y Ceidwadwyr sydd yn dal y sedd wedi iddynt ennill gyda mwyafrif o dros 23,000 yn Etholiad Cyffredinol 2019.
Yn gynharach ddydd Mawrth cyhoeddodd y Ceidwadwyr nad ydyn nhw bellach yn cefnogi Craig Williams fel ymgeisydd yn etholaeth Maldwyn a Glyndŵr.
Daw wedi iddo gael ei gyhuddo o fetio ar ddyddiad yr Etholiad Cyffredinol.
Mae ymgeisydd arall - Laura Saunders, ymgeisydd y blaid yng Ngogledd Orllewin Bryste - hefyd wedi colli cefnogaeth y blaid.
Daw’r cyhoeddiad wedi i'r ddau gael gwybod eu bod nhw o dan ymchwiliad gan y Comisiwn Gamblo am osod bet ar amseru'r Etholiad Cyffredinol.
Fe fydd enw'r ddau ymgeisydd ar y papur pleidleisio o hyd, gydag enwebiadau wedi cau ers ddechrau'r mis.
Dywedodd llefarydd ar ran y Blaid Geidwadol: “O ganlyniad i ymholiadau mewnol, rydym wedi dod i’r casgliad na allwn bellach gefnogi Craig Williams na Laura Saunders fel Ymgeiswyr Seneddol yn yr Etholiad Cyffredinol sydd i ddod.
“Rydym wedi gwirio gyda’r Comisiwn Gamblo nad yw’r penderfyniad hwn yn peryglu’r ymchwiliad y maent yn ei gynnal, sy’n gwbl briodol, annibynnol ac yn mynd yn ei flaen."
Mewn datganiad ar X, Twitter gynt, dywedodd Craig Williams ei fod wedi "gwneud camgymeriad nid cyflawni trosedd" a dweud ei fod yn "bwriadu clirio ei enw".
Llun: X / Kevin Craig