Teulu yn rhoi teyrnged i fachgen pedair oed fu farw yng Ngheredigion
Mae teulu plentyn pedair oed fu farw yng ngardd ei gartref yng Ngheredigion wedi rhoi teyrnged iddo.
Bu farw Maldwyn 'Gwern' Evans ar ddydd Iau, 20 Mehefin yn Nhynreithin, Tregaron.
Dywedodd ei deulu ei fod yn fab "cariadus" ac yn frawd "gofalgar".
"Fel teulu, rydyn ni wedi torri ein calonnau am y golled yma," medden nhw.
"Bydd colled fawr ar ei ôl gan ei deulu a’r gymuned gyfan.
"Roedd yn fab cariadus ac yn frawd gofalgar, a gyffyrddodd â chalonnau cymaint o bobl.
"Roedd wedi byw ei fywyd byr i'r eithaf a bydd yn cael ei gofio am ei bersonoliaeth swynol. Roedd yn ffermwr bach awyddus iawn ac roedd ganddo wybodaeth a gallu y tu hwnt i'w flynyddoedd.
"Hoffem ddiolch i bawb am eu cefnogaeth a’u caredigrwydd ar yr adeg erchyll hon. Mae wedi golygu cymaint i’r teulu cyfan.
"Hoffem amser i alaru a gofynnwn am breifatrwydd i wneud hynny."
Dywedodd Heddlu Dyfed Powys ar 25 Mehefin nad yw'r farwolaeth yn cael ei thrin fel un amheus.