
'Bysa fo'n prowd iawn': Dringo 15 mynydd yn Eryri ar ôl colli tad
Mae dyn ifanc o Wynedd wedi dringo 15 copa yn Eryri a chodi dros £5,000 i elusen iechyd meddwl ar ôl marwolaeth ei dad.
Bu farw Andrew Williams, tad Owain Williams o Gaernarfon, ym mis Chwefror eleni ar ôl dioddef gydag iselder a gorbryder am nifer o flynyddoedd.
Ym mis Ebrill fe benderfynodd Owain ei fod am godi arian ar gyfer elusen iechyd meddwl Mind Conwy a chwblhau her 15 copa Eryri.
Dechreuodd ef a'i ffrindiau ar y daith ychydig wedi 4.00 fore Sadwrn a chyrraedd y copa cyntaf, Crib Goch ychydig wedi 6.00.
Cyn cychwyn ar y daith 54km o hyd roedd Owain yn teimlo'n nerfus, ond nid ar gyfer y daith ei hun.
"Nerfus am bob dim arall o’n i," meddai wrth Newyddion S4C.
"O’n i isho cal y tacsis i gyd ar amsar, o’n i isho sortio’r bwyd i gyd ag o’n i’n cael pobl yn joinio trwy’r dydd felly o’dd angan gwybod faint o’r gloch o’dd pobl isho bod yn bob man.
"Hwnna o’dd y stress mwya rili. Nesh i ddim feddwl am yr actual taith, y cerddad."

'Annog'
Ar ôl cerdded Crib Goch fe aeth y criw ymlaen i Garnedd Ugain, Yr Wyddfa, Elidir Fawr a'r Garn.
Wrth i'r daith fynd yn ei blaen roedd mwy o ffrindiau Owain wedi ymuno. Roedd hyn yn sbardun mawr wrth i'r traed a'r coesau ddechrau blino.
"O’dd o’n brilliant, o’dd o’n refreshing achos o’n nhw’n annog chdi mlaen wedyn a o’dd o jyst yn edrych ymlaen wedyn i weld y criw nesa," meddai.
"Odda chdi’n cael adrenaline burst wedyn i weld y criw nesaf rili a o’dd nhw’n dod a bwyd a diod felly o’dd dim angen poeni am gario nhw trwy’r dydd."
Y Glyderau oedd yr her fwyaf anodd i Owain yn ystod y daith 16 awr.
Dechreuodd y criw ddringo i fyny Glyder Fawr wedi 10 awr o gerdded, a oedd yn gwneud pethau'n anoddach.
"Y Glyderau mashwr oedd anoddaf. Ma heina mor serth ac o'dd y cerrig yn fân," meddai Owain.
"Felly pan ti 'di bod yn cerdded am 10 awr yn barod a goro dringo creigiau ar Tryfan a Glyder Fach, o'dd hwnna reit heriol.
"O'dd hi mor brysur fyna hefyd achos o'dd hi’n canol prynhawn so o'dd na gymaint o bobl 'na yr un pryd.
"Ag o'dd Crib Goch yn y glaw yn anodd, ond o'n ni’m yn gweld y drop so odd hwnna’n reit dda."
'Prowd iawn'
Wedi iddynt gyrraedd copa'r Glyderau, Tryfan, Pen yr Ole Wen, Carnedd Dafydd, Yr Elen, Carnedd Llewelyn, Foel Grach, Foel-fras a Carnedd Gwenllian roedden nhw wedi cwblhau'r daith.
Mae Owain wedi codi dros £5,000 tuag at elusen Mind Conwy wrth wneud yr her.
Dywedodd wrth Newyddion S4C ei fod yn credu y byddai ei dad wedi bod yn falch iawn ohono am gwblhau'r her a chodi gymaint o arian tuag at elusen.
"O'dd o'n licio codi arian a ballu a rhoid petha at achos da. Dwi’n meddwl bysa fo’n prowd iawn a bysa fo wedi licio cymryd rhan yn y diwrnod mashwr," meddai.
"Mae o’n neud fi reit prowd rili bod ni wedi codi gymaint o bres tuag at gwasanaethau iechyd meddwl.
"O’n i ddim wedi clywed amdanyn nhw blwyddyn yn ôl ond wan dwi'n gobeithio bod cannoedd o bobl wedi clywed am yr elusen ac yn gwybod be ma nhw’n neud."
Prif lun: Owain Williams