Ymchwilio i ddwyn pysgod o lyn yng Ngwynedd
Mae Tîm Troseddau Cefn Gwlad Heddlu'r Gogledd yn dweud bod swyddogion yn ymchwilio i adroddiadau o ddwyn pysgod o lyn yn Eryri.
Mae'r heddlu wedi derbyn "nifer o adroddiadau" am bobl yn cymryd pysgod yn anghyfreithlon o Lyn y Dywarchen ger Rhyd Ddu.
Dywed y llu eu bod wedi cynyddu nifer yr ymweliadau â'r safle o ganlyniad i'r adroddiadau hyn, a'u bod yn cydweithio'n agos gyda Chyfoeth Naturiol Cymru hefyd.
Cymdeithas Bysgota Seiont Gwyrfai a Llyfni sydd gyda'r hawl i bysgota ar y llyn, ac mae'n debyg bod unigolion wedi defnyddio cychod aelodau'r gymdeithas yn ddiweddar i gasglu'r pysgod yn anghyfreithlon.
Dywed aelodau'r gymdeithas bod nifer o gerbydau wedi eu gweld yn ardal y llyn yn ystod yr wythnosau diwethaf, gyda rhai pysgotwyr sydd yno heb drwydded yn troi'n fygythiol ar ôl cael eu herio.
Llun: Tîm Troseddau Cefn Gwlad Heddlu'r Gogledd