Newyddion S4C

Byddin Israel yn rhwymo Palestiniad oedd wedi ei anafu i gerbyd

23/06/2024
Y Lan Orrllewinol

Mae Byddin Israel wedi dweud bod eu lluoedd wedi torri protocol rhyfel drwy glymu dyn o Balesteina oedd wedi’i anafu ar flaen un o'u cerbydau yn ystod cyrch yn ninas Jenin ar y Lan Orllewinol.

Fe gadarnhaodd swyddogion y digwyddiad ar ôl iddo gael ei ddal ar fideo a'i rannu ar gyfryngau cymdeithasol.

Dywedodd datganiad gan y llu fod y dyn wedi’i anafu mewn ymladd yn ystod y cyrch gan filwyr yr IDF.

Dywedodd teulu'r dyn a anafwyd eu bod wedi gofyn am ambiwlans, ond fe aeth y fyddin ag ef, gan ei rwymo i foned eu cerbyd a gyrru i ffwrdd.

Cafodd y dyn ei drosglwyddo i'r Cilgant Coch am driniaeth.

Dywedodd Byddin Israel y byddant yn cynnal ymchwiliad i'r digwyddiad: "Nid yw ymddygiad y lluoedd yn y fideo o'r digwyddiad yn cydymffurfio â gwerthoedd yr IDF.”

Dywedodd y Cenhedloedd Unedig fod o leiaf 480 o Balesteiniaid - aelodau o grwpiau arfog, ymosodwyr a sifiliaid - wedi cael eu lladd mewn gwrthdaro yn y Lan Orllewinol, gan gynnwys Dwyrain Jerwsalem.

Mae 10 o Israeliaid, gan gynnwys chwe pherson o’r lluoedd diogelwch, hefyd wedi’u lladd yn y Lan Orllewinol yn ystod yr ymladd diweddaraf.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.