Covid-19: Angela Merkel yn cynnig gobaith i ymwelwyr ag Ewrop
Mae'r Prif Weinidog Boris Johnson wedi croesawu Canghellor yr Almaen, Angela Merkel, i'r Deyrnas Unedig ddydd Gwener.
Yn ôl Sky News roedd trafodaethau ynghylch cyfyngiadau Covid-19 ar deithio yn uchel ar yr agenda i'r ddau arweinydd.
Cyn y cyfarfod roedd adroddiadau fod y Canghellor wedi galw ar yr Undeb Ewropeaidd i rwystro ymwelwyr o'r Deyrnas Unedig rhag teithio i wahanol wledydd o fewn yr UE, hyd yn oed os oeddynt wedi eu brechu'n llawn.
Erbyn diwedd yr haf, mae Llywodraeth y DU wedi addo teithwyr y bydden nhw'n cael teithio i wledydd ar y rhestr oren, megis Yr Almaen, Ffrainc, Groeg a Phortiwgal heb fod angen hunan-ynysu unwaith maen nhw wedi dychwelyd.
Ond yn ôl adroddiad Sky, dywedodd Ms Merkel ar ddiwedd y cyfarfod ddydd Gwener y byddai modd i bobl deithio i'r UE os oes ganddynt brawf eu bod wedi derbyn dau frechiad Covid-19, a hynny heb yr angen i fynd i gwarantin.
Darllenwch y stori'n llawn yma.
Llun: World Economic Forum