Newyddion S4C

'Dysgu drwy brofiadau': Y plant o Fôn sy'n cael cyfle i drefnu gig ysgol

23/06/2024

'Dysgu drwy brofiadau': Y plant o Fôn sy'n cael cyfle i drefnu gig ysgol

Mae hi'n bwysig "rhoi profiadau" i blant yn hytrach na'u bod nhw "ond yn dychmygu" yn ôl un ysgol ar Ynys Môn. 

Ar 10 Gorffennaf, fe fydd gig yn cael ei chynnal ar gae Ysgol Henblas ar yr ynys, gyda Bwncath, Elin Fflur, Y Brodyr Magee, Y Moniars a Rhwydwaith i gyd yn perfformio. 

Nid staff ac athrawon yr ysgol sydd wedi trefnu'r gig, ond yn hytrach, disgyblion saith, wyth a naw oed yr ysgol. 

Un sydd wedi bod wrthi yn brysur yn rhan o'r trefniadau ydy Daniel. 

"Enw'r gig ydy Hwyl Henblas Gig gyda'n Gilydd, a y bobl sy'n dwad yna ydi Bwncath, Elin Fflur, Y Brodyr Magee, Moniars a Rhwydwaith.

"'Dan ni'n gorfod meddwl faint mae'r tocynnau yn costio, faint o bandiau sy'n cael dwad, faint o bobl ag ia, a faint o bethau 'dan ni'n cael prynu fel y llwyfan a'r golau." 

Dywedodd Cadi, sydd hefyd wedi bod yn gweithio'n brysur: "'Dan ni'n teimlo yn rili hapus 'chos 'dan ni'n lwcus iawn i gael trefnu gig."

Mae Menter Môn wedi helpu gyda chyllid a chostau ariannu y digwyddiad. 

'Ymfalchïo yn eu cymunedau'

Dywedodd Sioned McGuigan sy'n gweithio yno: "Yn rhan o fy rhaglen gwaith i, dwi'n gweithio efo cronfa Balchder Bro, sydd yn cefnogi cymunedau ar draws y sir i ymfalchïo yn eu cymunedau 'lly.

"A wedyn ddaru Cadi sydd yn ferch i fi ddod adra a deud bo' nhw'n bwriadu trefnu gig felly ges i air efo Mrs Williams a 'dan ni wedi gallu rhoi pres tuag at y gig ar gyfer costau'r bandiau a'r llwyfan ac yn y blaen."

Mae'r plant yn cael y cyfle i ddatblygu ac i gael eu hysbrydoli yn ôl athrawes y dosbarth, Mrs Heather Williams.

"Dwi'n meddwl bod o'n bwysig iawn bod cyfleoedd fel hyn yn cael ei ddarparu i'r plant oherwydd 'dan ni'n gwbod bod plant yn dysgu drwy gael profiadau, ac yn barod, mae'r plant wedi cael cyfle i ddatblygu a defnyddio sgiliau," meddai. 

"Ma' nhw wedi ysgrifennu at y bandiau, ma' nhw wedi bod yn cyfrifo costau y bandiau, trio gweithio allan, faint i godi am docyn, faint o docynnau i werthu, be fydd yr elw, ma' nhw wedi creu posteri, creu tocynnau.

"Wedyn ar y noson, fyddan nhw'n cael cyfathrebu gyda'r gymuned, fyddan nhw yn cyfarch ac yn gofalu am y bandiau ac yn cael cyflwyno ar y llwyfan felly gobeithio fydd hyn yn  ysbrydoli ella perfformwyr y dyfodol, ella fydd genna ni ddylunwyr graffig a trefnwyr ar gyfer digwyddiadau mawr."

Mae gallu cynnig profiadau bywyd i'r plant hefyd yn bwysig yn ôl Heather Williams.

"Mae o'n wych bod y plant yn gallu arwain oherwydd yn amlwg ma' nhw'n fwy brwdfrydig wedyn am y dysgu felly ma' gallu cynnal y gig yma a chael profiad bywyd go iawn yn hytrach na jyst deud 'Dychmygwch bo' ni yn trefnu gig' - ma' hwn yn mynd i fod yn brofiad bythgofiadwy iddyn nhw," meddai.

'Brwdfrydedd'

Ychwanegodd Sioned McGuigan: "Ma' jyst gweld brwdfrydedd y plant 'ma i gynnal gig o'r fath ma' nhw 'di cael enwogion Cymru i ddod yma ar gae Henblas, a ma' jyst yn neis i ni gael gweld a cefnogi'r fath gig mewn ffordd 'lly.

"Plant yn siarad efo'i gilydd, y trefniada, gweld bo' nhw'n cael y crysau-t 'ma fel ma' nhw ydi staff y noson,  ia fydd o'n wych.

"Dwi'n meddwl fydd o'n noson fythgofiadwy yn bendant i'r plant ac i ni fel rhieni, cael y profiad yna o 
gael gweld ein plant ni yn trefnu digwyddiad mor fawr."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.