Swyddfa'r Post yn 'cyhoeddi enwau a chyfeiriadau is-bostfeistri ar-lein yn ddamweiniol’
Mae Swyddfa’r Post wedi "cyhoeddi’n ddamweiniol" enwau a chyfeiriadau cartref 555 o is-bostfeistri a gafwyd yn euog ar gam yn sgandal technoleg Horizon, yn ôl adroddiadau.
Roedd y ffeil a oedd yn datgelu manylion y rhai a fu’n ymwneud ag erlyn Swyddfa’r Post yn 2019, gan gynnwys eu codau post, ar y wefan yn llawn ddydd Mercher ond fe gafodd ei thynnu i lawr yn ddiweddarach, meddai’r Daily Mail.
Yn ôl adroddiadau, roedd y ddogfen wedi ei henwi yn “Weithred Setliad Cyfrinachol” ac yn nodi bod y cynnwys yn breifat.
Mae Swyddfa’r Post wedi cadarnhau bod y ddogfen wedi'i thynnu i lawr o'u gwefan.
Dywedodd llefarydd ar ran y sefydliad: “Rydym yn ymchwilio fel mater brys i sut y daeth i gael ei gyhoeddi. Rydym yn y broses o hysbysu Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth (ICO) o’r digwyddiad, yn unol â’n gofynion rheoliadol.”
'Esbonio'
Ond dywedodd llefarydd ar ran yr ICO nad ydyn nhw wedi derbyn adroddiad torri data gan Swyddfa'r Post.
“Rhaid i sefydliadau hysbysu’r ICO o fewn 72 awr o ddod yn ymwybodol o doriad data personol, oni bai nad yw’n peri risg i hawliau a rhyddid pobl,” meddai.
“Os bydd sefydliad yn penderfynu nad oes angen rhoi gwybod am doriad, dylai gadw ei gofnod ei hun ohono a gallu esbonio pam na chafodd ei adrodd.”
Fe wnaeth meddalwedd Horizon arwain at achosion troseddol yn erbyn 700 o is-bostfeistri, gan gynnwys nifer yng Nghymru, am fod y system honno wedi gwneud iddi ymddangos fod arian ar goll o'u canghennau.
Mae dogfen wedi datgelu fod penaethiaid a chyfreithwyr yn ymwybodol o'r diffygion yn 2017, ond wedi parhau i ddadlau mai'r cyn is-bostfeistri oedd ar fai.
Mae cannoedd o is-bostfeistri yn dal i aros am iawndal er bod Llywodraeth y DU wedi cyhoeddi bod y rhai sydd wedi cael collfarnau wedi’u dileu yn gymwys i gael £600,000 o daliadau allan.
Cafodd y cyn is-bostfeistr o Gonwy, Alan Bates gael ei wneud yn farchog yn anrhydeddau pen-blwydd y brenin yr wythnos diwethaf.