Newyddion S4C

Dau frawd yn rhan o garfan Dan 20 rygbi Cymru ar gyfer Pencampwriaeth Rygbi Dan 20 y Byd yn Ne Affrica

19/06/2024

Dau frawd yn rhan o garfan Dan 20 rygbi Cymru ar gyfer Pencampwriaeth Rygbi Dan 20 y Byd yn Ne Affrica

Ar ôl ymgyrch siomedig yn y Chwe Gwlad mae'r prif hyfforddwr yn dweud mae trwy chwarae'r goreuon mae gwella.

"I don't see it any different to when I arrived at the end of 2008 when I was asked by Roger Lewis "Who do you want to play?"

"I said, "Any time you can play a Southern Hemisphere team jump at that chance and go."

"That's the way you improve in any sport by playing against the best."

Tra bod manylion tîm y dynion i wynebu De Affrica yn Twickenham wedi cyhoeddi yma yng Ngwesty'r Fro ar y cae ymarfer ychydig lathenni i ffwrdd mae'r tîm dan 20 yn paratoi i deithio i Dde Affrica ar gyfer Pencampwriaeth y Byd.

Wedi cynnwys yn y garfan am y tro cyntaf, mae dau frawd. Ioan Emanuel yw'r brawd hynaf sy'n chwarae prop dros Gaerfaddon. Canolwr yw Steffan sydd 18 mis yn ifancach ac sydd newydd lofnodi cytundeb proffesiynol gyda Rygbi Caerdydd.

Mae'r ddau yn hen gyfarwydd a chyd-chwarae wedi cynrychioli'r tîm dan 18 yn y gorffennol.

"Mae'n bleser, wrth gwrs. Dydd i ddydd, dyw e ddim yn rhywbeth dw i wedi meddwl am ond pan ni'n cael ein dewis i sgwad i fynd i South Africa mae'n bleser i'r ddau ohonom."

Pa mor anodd bydd e mas yn Ne Affrica?

"Bydd e'n anodd ond mae'r ymarfer yn rhoi ni mewn lle da iawn a rili mynd at y timoedd eraill sydd yna."

Steffan o'dd capten y tîm dan 18 eleni ac yn mwynhau'r profiad o chwarae gyda'r bois hŷn.

"Mae'n brofiad anhygoel a'r bois wedi gwneud i fi deimlo'n gartrefol. Mae pawb yn garedig iawn felly mae'n brofiad arbennig."

Mae cael dy frawd wrth dy ochr siwr o fod yn deimlad braf.

"Ie, mae fe'n neis, weithiau. Profiadau ni'n gwerthfawrogi'n fawr achos 'sdim llawr o bobl yn gallu gwneud hwnna."

Yn ogystal â'r wynebau newydd, mae chwaraewyr profiadol fel y capten, Ryan Woodman ac wythwr y Gweilch, Morgan Morse. Bydd chwarae yn erbyn y goreuon yn Ne Affrica yn gyfle i greu argraff.

"Cymaint o chwaraewyr ifanc wedi bwrw ei swildod ar lefel ryngwladol tymor diwethaf o dan Warren Gatland. Mae'r tîm sy'n mynd i Dde Affrica'n gwybod eu bod nhw o fewn un alwad ar gyrraedd y tîm hŷn.

"Mae'n gyfle perffaith ar eu trywydd nesaf ar y lefel ryngwladol."

Bydd yr ymgyrch yn dechrau wythnos i ddydd Sadwrn yn erbyn Seland Newydd. Y timau eraill yn ngrŵp Cymru yw Sbaen a'r pencampwyr Ffrainc. Mae wythnosau heriol yn wynebu'r criw dan 20 fel i dîm y dynion.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.