Ffigyrau chwyddiant wedi gostwng i 2%
19/06/2024
Ffigyrau chwyddiant wedi gostwng i 2%
Mae ffigyrau chwyddiant wedi gostwng i 2% am y tro cyntaf ers bron tair blynedd.
Yn ôl y Swyddfa Ystadegau Gwladol mae'r gyfradd wedi gostwng i 2% ym mis Mai. 2.3% oedd y ffigwr ym mis Ebrill.
2% oedd targed Banc Lloegr.
Bydd y Banc yn gwneud penderfyniad ynglŷn â chyfraddau llog ddydd Iau gyda'r disgwyl na fyddan nhw yn cael eu torri'r mis yma.
Mae'r economi yn bwnc blaenllaw gan y pleidiau gwleidyddol i gyd cyn yr Etholiad Cyffredinol ar 4 Gorffennaf.