'Shwmae!': Taylor Swift yn defnyddio'r Gymraeg yn ei chyngerdd yng Nghaerdydd
'Shwmae!': Taylor Swift yn defnyddio'r Gymraeg yn ei chyngerdd yng Nghaerdydd
“Shwmae!”
Cafodd Taylor Swift ymateb byddarol yn ei chyngerdd yng Nghaerdydd nos Fawrth ar ôl agor y noson gydag ambell air o Gymraeg.
Gyda degau o filoedd o ‘Swifties’ yn Stadiwm Principality i wylio eu harwr, fe wnaethon nhw ymateb gyda bloedd pan wnaeth y seren Americanaidd eu cyfarch gyda “shwmae”.
Yna, ychydig yn ddiweddarach, wrth annerch y dorf unwaith eto, dywedodd: “It is such an honour and a pleasure to say these words tonight – ‘Cardiff, croeso i daith Eras’.”
Mae’r seren bop yng Nghymru am un noson, fel rhan o’i thaith Eras. Bydd hi yn perfformio mewn 15 o gyngherddau ar draws y DU fel rhan o’r daith.
Mae amcangyfrifon y gallai’r cyngerdd ddod a gwerth £64 miliwn o fudd economaidd i’r brifddinas, yn ôl Dr Robert Bowen, darlithydd busnes o Brifysgol Caerdydd.
Llun: PA