Newyddion S4C

Cyfraddau goroesi canser Cymru 'hyd at 25 mlynedd y tu ôl i wledydd Ewrop'

19/06/2024
canser

Mae cyfraddau goroesi canser yng Nghymru hyd at 25 mlynedd y tu ôl i wledydd eraill yn Ewrop yn ôl ymchwil newydd.

Mae 50 o bobl yn derbyn diagnosis o ganser yng Nghymru bob dydd, sef mwy na 17,000 y flwyddyn yn ôl elusen ganser Macmillan.

Gwaith ymchwil diweddaraf gan Macmillan yw hwn ac mae'n dangos fod y gyfradd o gleifion benywaidd gyda chanser y colon oedd yn goroesi mwy na phum mlynedd yng Nghymru, yn is na'r gyfradd oedd Sweden eisoes wedi ei gyrraedd erbyn dechrau'r 2000au.

Yn ôl yr elusen, mae'r gyfradd oroesi pum mlynedd i ddynion gyda chanser y colon yng Nghymru ddegawd ar ei hôl hi hefyd.

Mae'r sefyllfa ar gyfer canser y rectwm yn debyg yng Nghymru, gyda'r gyfradd oroesi pum mlynedd i ferched 15 mlynedd ar ei hôl hi o gymharu â Norwy. 

Mae'r elusen yn rhybuddio fod amseroedd aros canser ar draws y DU ymysg y gwaethaf ar gofnod y llynedd.

Maent yn dweud bod pobl sy'n byw gyda chanser yn wynebu heriau sylweddol ymhob agwedd o fywyd, gan gynnwys eu hiechyd meddyliol a chorfforol. 

Dywedodd Prif Weithredwr elusen Macmillan, Gemma Peters: "Mae helpu pobl gyda chanser i fyw yn hirach yn bwysig ond mae helpu gyda'u hansawdd bywyd nhw hefyd yn bwysig. 

"Ni ddylai pobl orfod treulio eu dyddiau yn poeni am oedi i'w triniaeth neu sut y byddan nhw'n gallu fforddio petrol neu bris tocyn bws i fynd i'w hapwyntiad nesaf.

"Gyda'n gilydd, yn wleidyddion a phartneriaid, gallwn ni drawsnewid gofal canser ar gyfer dyfodol mwy gobeithiol i bobl â chanser a'r rhai sy'n eu cefnogi."

 

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.