Newyddion S4C

Tata: Gweithredu diwydiannol gan weithwyr dur Port Talbot

18/06/2024
Tata Steel

Mae gweithwyr dur Tata wedi dweud na fyddant yn gweithio y tu hwnt i'w cyfrifoldebau na'n gweithio goramser mewn protest yn erbyn cynlluniau’r cwmni i gau ffwrneisi chwyth.

Y nod yw lleihau allbwn ac effeithlonrwydd eu gwaith fel ffurf o weithredu diwydiannol er mwyn dangos eu hanfodlonrwydd gyda'r newidiadau.

Mae Tata yn dweud eu bod yn symud i ffurf mwy amgylcheddol o gynhyrchu dur ym Mhort Talbot, ond bydd yn golygu colli miloedd o swyddi ar y safle.

Dywedodd Unite fod 1,500 o’i aelodau wedi dechrau gweithredu yn ddiwydiannol ddydd Mawrth, gan rybuddio y bydd streiciau’n cael eu cynnal os nad yw’r cwmni’n newid eu cynlluniau.

Dywedodd ysgrifennydd cyffredinol Unite, Sharon Graham, bod y gweithwyr yn brwydro am ddyfodol gwell.

“Mae gweithwyr Tata yn gwneud hyn oherwydd eu bod yn gwybod mai celwydd yw honiad y cwmni na ellir cadw swyddi yn ne Cymru yn ystod y newid i ddur gwyrddach," meddai.

“Maen nhw’n sefyll i fyny ac yn ymladd am ddyfodol gwell, un lle gall busnes Prydeinig Tata fanteisio’n llawn ar ffyniant y farchnad am ddur gwyrdd sydd heb aberthu swyddi er budd eu gweithrediadau tramor."

'Anghyfeithlon'

Dywedodd llefarydd ar ran Tata: “O’r 4,500 o weithwyr Tata Steel ym Mhort Talbot a Llanwern, roedd 1,366 o aelodau Unite yn gallu pleidleisio, pleidleisiodd 857, ac o’r rheini a bleidleisiodd, roedd 468 o aelodau o blaid gweithredu'n ddiwydiannol gan gynnwys streicio.

“Rydym wedi herio cyfreithlondeb eu proses bleidleisio ar sawl achlysur ac o’n safbwynt ni maen nhw'n gweithredu'n ddiwydiannol yn anghyfreithlon.

“Ymhellach, trwy drafodaethau helaeth gyda’r undebau, fe wnaeth y cwmni wella’n sylweddol y gefnogaeth sy'n cael ei gynnig i weithwyr sydd yn cael eu heffeithio ar ddau achlysur – y pecyn mwyaf hael yn ein hanes – a byddem wedi disgwyl i Unite roi’r cynnig hwn i’w haelodau.

“Ar ôl derbyn hysbysiad o weithredu diwydiannol gan Unite, mae ein pecyn cymorth i weithwyr bellach yn anffodus yn nes at ein telerau safonol."

Mae gan Community ac undeb y GMB aelodau yn Tata hefyd, ond nid ydynt ar hyn o bryd wedi cyhoeddi unrhyw weithredu diwydiannol.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.