Cyfyngiadau coronafeirws mewn lleoliadau gofal plant i gael eu llacio
Mae'r llywodraeth wedi cyhoeddi y bydd y cyfyngiadau coronafeirws presennol sydd mewn grym mewn lleoliadau gofal plant yn cael eu llacio yn ddiweddarach yn y mis.
O 19 Gorffennaf ymlaen, fe fydd y ddibyniaeth ar grwpiau cyswllt cyson yn cael ei disodli gan ffocws cryfach ar olrhain cyswllt.
Mewn datganiad brynhawn dydd Iau, dywedodd Julie Morgan, y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol fod penderfyniad wedi’i wneud i "symud oddi wrth yr angen i gynnal grwpiau cyswllt cyson ar draws lleoliadau gofal plant a gwaith chwarae, gan gynnwys lleoliadau Dechrau’n Deg".
Bydd angen i leoliadau sicrhau eu bod yn cadw cofnodion manwl o bresenoldeb a gweithgareddau er mwyn galluogi adnabod cysylltiadau agos ag achos cadarnhaol yn glir, medd y gweinidog.
"Gyda'r mesurau hyn ar waith, byddai'r risgiau trosglwyddo mewn lleoliadau gofal plant yn parhau i gael eu lliniaru," ychwanegodd.
Dywedodd hefyd fod y newid yn ymateb i effaith gynyddol brechu oedolion yng Nghymru, cynnig profion ddwywaith yr wythnos i staff mewn lleoliadau gofal plant, a'r system olrhain cysylltiadau effeithiol.
"Nid yw'n arwydd o lacio'r holl fesurau rheoli", meddai.