
House of the Dragon: Lle yng Nghymru sy'n ymddangos yn y gyfres newydd?
Wrth i’r ail gyfres o ‘House of the Dragon’ ddychwelyd i’r sgrin fach, bydd tirlun trawiadol y gyfres ffantasiol yn gyfarwydd i nifer o wylwyr o Gymru.
Cadarnhaodd cynhyrchwyr y rhaglen y llynedd fod wyth o leoliadau ledled Ynys Môn a Gwynedd wedi cael eu defnyddio wrth saethu'r ail gyfres.
Mae ‘House of the Dragon’ yn rhan o fyd ‘Game of Thrones’ ac ymysg y sêr sy'n ymddangos ynddi mae'r Cymro Rhys Ifans, Emma D’Arcy a Matt Smith.
Ond ble yn union oedd criwiau HBO wedi bod yn ffilmio?

Chwarel Yr Eifl, Gwynedd
Roedd Chwarel Yr Eifl, sy’n cael ei adnabod yn lleol fel Chwarel Trefor, yn un o brif leoliadau’r gyfres yng Nghymru.
Roedd y chwarel eisoes wedi ymddangos yng nghyfres gyntaf ‘House of the Dragon’, ac mae bellach am ymddangos ar y sgrin fach unwaith eto.
Y gred yw mai dyma oedd lleoliad Castell Dragonstone yn y gyfres.
Mae rhai trigolion lleol wedi dweud eu bod nhw wedi gweld baneri gyda symbol y cymeriad Rhaenyra Targaryen – sy’n cael ei chwarae gan Emma D’Arcy – yn yr ardal.

Chwarel Dinorwig, Gwynedd
Chwarel Dinorwig yng Ngwynedd yw un o chwareli llechi mwyaf yn y byd.
Cafodd criwiau cynhyrchu eu gweld yn ffilmio yno yn ystod yr haf y llynedd, ac roedd lluniau gan ffans y rhaglen yn dangos pebyll, ceirt, catapyltiau a dau biler o garreg ar y set.

Dyffryn Ogwen, Gwynedd
Mae Dyffryn Ogwen yn rhan o Barc Cenedlaethol Eryri, ac mae golygfeydd o fynyddoedd y Carneddau a Glyderau i’w weld yno.
Fe fydd y dyffryn yn ymddangos yn yr ail gyfres o ‘House of the Dragon’, ond does dim cadarnhad o hyd beth yn union gafodd ei saethu yn y lleoliad.
Roedd pobl ar gefn ceffylau wedi eu gweld yn marchogaeth ar hyd y dyffryn.

Pont Rufeinig Penmachno, Sir Conwy
Fe fydd Pont Rufeinig Penmachno yn Sir Conwy, a gafodd ei hadeiladu yn yr 17eg ganrif, yn serennu yn yr ail gyfres o ‘House of the Dragon.’
Gwelwyd sawl 'corff marw' ymysg y propiau yno, gan awgrymu bod un o frwydrau mawr y gyfres yn digwydd gerllaw.

Trwyn Du / Trwyn Penmon, Ynys Môn
Fel un o draethau mwyaf poblogaidd Ynys Môn, mae Trwyn Penmon yn gartref i oleudy Trwyn Du.
Cafodd rhai o ddigwyddiadau’r gyfres ei saethu ar hyd yr arfordir, ac roedd yr actor Steve Toussaint, sy’n chwarae rôl Corlys Velaryon, wedi cael ei weld ar gwch yno.

Traeth Biwmares, Ynys Môn
Yn ôl rhai trigolion lleol, cafodd brwydr ei ffilmio ar Draeth Biwmares ar Ynys Môn.
Roedd rhai yn dweud eu bod nhw wedi gweld actorion wedi eu gwisgo fel milwyr y cymeriad Aegon II Targaryen yno.

Traeth Llanddwyn, Ynys Môn
Y gred yw mai Traeth Llanddwyn ar Ynys Môn yw ble cafodd digwyddiad traddodiadol ‘Sowing of the Dragonseeds’ ei saethu.
Yn ôl adroddiadau, bydd Emma D’Arcy hefyd yn ymddangos mewn golygfa emosiynol yno, mewn cilfach ger Afon Cefni.

Prif luniau: Llywodraeth Cymru a Wikipedia