Newyddion S4C

Teyrngedau i ddau fu farw mewn gwrthdrawiad yn Sir Gâr

17/06/2024
Adam a Katie

Mae teuluoedd dau a fu farw mewn gwrthdrawiad yn Sir Gâr wedi rhoi teyrnged iddyn nhw.

Bu Katie Worrell, 25 oed, ac Adam Muskett, 27 oed, farw o’u hanafiadau wedi’r gwrthdrawiad ar ddydd Iau, 13 Mehefin.

Digwyddodd y gwrthdrawiad rhwng Jaguar du a Ford Fiesta du ar yr A477 rhwng Llanddowror a Rhos-goch.

Mewn datganiad dywedodd teulu Katie Worrell: “Roedd Katie yn ferch, chwaer, wyres, nith a chyfnither annwyl iawn. 

“Roedd hi'n byw bywyd i'r eithaf, yn hoff iawn o deithio ac wedi cyflawni cymaint mewn amser mor fyr.

“Graddiodd gyda gradd Meistr a gweithio'n galed. 

“Roedd hi'n caru ei ffrindiau ac Adam y tu hwnt i eiriau. 

“Roedd Katie yn garedig, yn ofalgar ac yn brydferth ac ni fydd ein bywydau byth yr un peth hebddi."

Image
Adam and Katie

Mae teulu Adam hefyd wedi rhoi teyrnged i’w “mab, brawd, ŵyr a nai cariadus”. 

“Roedd yn caru bywyd, ei ffrindiau, Dinbych-y-pysgod, pêl-droed a Katie yn fawr iawn,” medden nhw.

“Sut mae symud ymlaen hebot ti, dy galon fawr garedig a dy wên ddigywilydd.

“Fe fyddwn ni’n torri ein calonnau ac yn llawn balchder am byth.”

Apêl

Gofynnir i unrhyw un oedd yn teithio ar yr A477 gerllaw safle’r gwrthdrawiad ar y pryd i gysylltu â’r Heddlu.

Hoffai swyddogion siarad ag unrhyw fodurwyr a oedd yn yr ardal ar y pryd oedd â chamera ar eu cerbydau.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.