Teyrnged i ddyn 'poblogaidd' a fu farw mewn gwrthdrawiad yng Nghwmbrân
Mae teulu dyn a fu farw mewn gwrthdrawiad yng Nghwmbrân wedi rhoi teyrnged iddo, gan ei ddisgrifio fel dyn yr oedd pawb yn y dref yn ei adnabod a'i hoffi.
Bu farw Graham Crowley, 75 oed, mewn gwrthdrawiad ar y groesffordd rhwng Lôn Cocker a Ffordd Henllys yn y dref am tua 18:00 ar ddydd Iau 13 Mehefin.
Roedd y gwrthdrawiad rhwng cerbydau Caterham Seven, Hyundai Tucson glas a fan Ford transit.
Mr Crowley oedd yn gyrru'r Caterham Seven cyn y gwrthdrawiad. Bu farw yn y fan a'r lle.
Mewn teyrnged iddo, dywedodd teulu Mr Crowley: “Bu Graham yn byw yng Nghwmbrân am bron i 50 mlynedd ac roedd yn rhan adnabyddus a phoblogaidd o’r dref.
"Rydym wedi ein syfrdanu ac yn drist iawn o ganlyniad i'w farwolaeth sydyn ond yn cymryd cysur yn y ffaith ei fod yn ei annwyl gar pan fu farw."
Mae ymholiadau'r heddlu yn parhau ac mae swyddogion yn gofyn i unrhyw un sydd gyda gwybodaeth i gysylltu gan ddefnyddio'r cyfeirnod 2400195496.