Offeiriad trawsryweddol wedi cael cefnogaeth 'aruthrol' yng Nghymru

ITV Cymru

Mae'r offeiriad trawsryweddol cyntaf i gael ei hordeinio yn y Deyrnas Unedig wedi rhannu ei phrofiadau hi o’r gefnogaeth mae wedi derbyn. 

Mae’r Parchedig Ganon Sarah Jones wedi bod yn offeiriad plwyf yn Eglwys Ioan Fedyddiwr yng Nghaerdydd ers dwy flynedd a hanner, ac mae’n dweud ei bod hi eisiau i’r eglwys cael ei gweld fel lle croesawgar i bobl yn y gymuned LGBTQ +.

Dywedodd y Parchedig: "Pan gynigiais fy hun i gael fy ordeinio 20 mlynedd yn ôl, dywedais yn fy nghyfweliad cyntaf, 'Edrychwch, mae yna rywbeth yn fy hanes meddygol mae'n rhaid i chi ei wybod'. Ac mewn gwirionedd, doeddwn i ddim yn gwybod sut y byddent yn ymateb.”

"Ac roedden nhw’n iawn. Wel, o’n nhw bach fel, 'O, iawn, dydyn ni ddim yn gwybod beth i'w wneud mewn gwirionedd, ond rhowch ychydig o amser i ni a byddwn yn ei ddatrys'. Ac fe gymerodd amser, ond fe wnaethon nhw weithio fe allan – ac yn y diwedd cefais fy ordeinio.”

"Mae achlysuron wedi bod lle gafodd e ei wneud yn eithaf plaen na fyddai croeso i mi mewn swydd benodol, a bod pobl hyd yn oed yn anghytuno y dylwn i gael fy ordeinio. Ond yn bennaf, ac yn enwedig yng Nghymru, mae'r gefnogaeth wedi bod yn aruthrol."

Image
ITV
Ordeiniwyd Parchedig Ganon Sarah Jones yn Eglwys Lloegr 20 mlynedd yn ôl. Llun: ITV Cymru

Yn 2005, cafodd hunaniaeth Sarah fel menyw drawsryweddol ei ddatgelu i bapur newydd cenedlaethol. Ers hynny, mae hi eisiau i'r eglwys cael ei gweld fel lle croesawgar.

“Rwy'n cwrdd â llawer o bobl LGBT sy'n dweud nad oeddent yn credu y byddai croeso iddynt mewn eglwys. Weithiau mae pobl yn eithaf dagreuol, maen nhw'n dweud, 'O, roeddwn i wastad yn meddwl am fynd i'r eglwys, ond roeddwn i wir yn meddwl na fyddai croeso i mi.'

"Ac felly mae'n braf iawn gallu dweud, ‘drych, mae yna wahanol fathau o eglwysi gyda gwahanol fathau o safbwyntiau ar bob math o bethau. Ond mae yna lawer mwy o eglwysi cynhwysol na fyddwch chi’n meddwl."

Image
ITV
Mae'r Parchedig eisiau i'r Eglwys gael ei gweld fel lle croesawgar i bobl yn y gymuned LGBTQ +. Llun: ITV Cymru

Dywedodd y Parchedig y gallai hefyd ddeall pam bod rhai pobl yn gweld hi'n 'anodd' i weld offeiriad traws yn y gymuned Gristnogol a'r eglwys.

"Rwy'n deall ei bod hi'n anodd i rai pobl oherwydd rydyn ni'n cael ein magu i feddwl bod yna ddynion ac mae yna ferched ac mae yna fath o fwlch rhyngddyn nhw, a does dim byd arall – a pham ddylai unrhyw un fod yn arbenigwr yn hyn?

"Os dydyn nhw ddim wedi byw trwy hwn, os nad oes ganddyn nhw fab neu ferch neu berthynas, neu gymar gwaith, pam ddylen nhw wybod?

"Mae gan bawb hawl i'w barn, ond rwy'n credu nad yw'r rhan fwyaf o bobl yn adnabod unrhyw un [traws].

"Dydyn nhw erioed wedi gweithio gyda pherson traws – neu os ydyn nhw, dydyn nhw ddim wedi sylweddoli eu bod nhw.

"Rwy'n credu fod cwrdd â phobl yn bwysig iawn, ac mae darganfod sut y mae mewn gwirionedd yn bwysig iawn."

Image
ITV
Mae Parchedig Ganon Sarah Jones wedi cael ei disgrifio fel 'arwr' LGBTQ + gan ei chyfoedion yn yr eglwys.  Llun: ITV Cymru

Mae’r Parchedig Ganon Jones hefyd yn credu ei fod yn beth da i bobl 'herio syniadau' a thrafod a oes gan Dduw ryw.

Dywedodd hi: "Rydyn ni'n gyfarwydd iawn â siarad am Dduw fel 'Ef', ac yn amlwg roedd Iesu yn ddyn ac yn cyfeirio at Dduw fel 'tad', ac rydw i'n deall hynny. Ond pan rydyn ni'n meddwl am unrhyw beth sy'n ymwneud â Duw o fewn terfynau ein dychymyg a'r iaith sydd gennym ni, rydyn ni jyst yn rhedeg allan o ddealltwriaeth. Sut allwn ni o bosib ddisgrifio Duw?

"A phan rydych chi wir yn meddwl am y peth, a oes gan Dduw gorff mewn gwirionedd? Dydw i ddim yn credu bod, felly gall Dduw wirioneddol fod yn 'Ef', yn union fel dyn?

"’Dwi ddim yn credu hynny, ac rwy'n credu os Duw greodd popeth, mae Duw tu hwnt i'r holl ffiniau hyn. Felly beth bynnag yw Duw, ‘dwi wir ddim yn meddwl bod Duw yn 'Ef' arferol.

“Byddwn i’n bendant yn dweud bod Duw yn anneuaidd, yn yr ystyr nad yw Duw yn wryw nac yn fenyw.

“Mae’r ffaith bod Duw ddim yn bendant yn hollol wrywaidd yn ddefnyddiol – nid yn unig i’r gymuned queer, os ydych chi’n syth neu’n hoyw neu beth bynnag ydych chi, ond i’n dealltwriaeth ni o ddynoliaeth hefyd.”