Diffoddwyr yn ymateb i dân mewn tŷ yn Y Rhyl
16/06/2024
Mae Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru wedi ymateb i dân yn Rhyl fore Sul.
Fe gafodd y Gwasanaeth Tân eu galw am 03:45 fore Sul i gyfeiriad stad dai Rhydwen Close yn y dref.
Maen nhw wedi cynghori trigolion yr ardal i gau eu drysau a'u ffenestri.
Llun: Google Maps