Cofnodi 27 achos o E.coli yng Nghymru
Mae 27 achos o’r haint E.coli wedi cael eu cofnodi yng Nghymru ers 25 Mai, yn ôl Iechyd Cyhoeddus Cymru.
Y grêd yw bod yr achosion yn ymwneud â bwyd sydd yn cael eu gwerthu yn rhai o archfarchnadoedd mawr y DU.
Mae cwmni cynhyrchu bwyd wedi tynnu rhai brechdanau a saladau yn ôl o archfarchnadoedd, gan gynnwys Asda, Aldi, Sainsbury’s, Morrisons a’r Co-op.
Dywedodd swyddogion Greencore Group eu bod nhw wedi galw'r bwydydd yn ôl o’r archfarchnadoedd "rhag ofn".
Daw ar ôl i'r Asiantaeth Safonau Bwyd gyhoeddi ddechrau mis Mehefin bod o leiaf 37 o bobl wedi bod yn yr ysbyty ar ôl iddyn nhw gael eu heintio ag E.coli.
Bryd hynny, roedd 18 o achosion yng Nghymru - ond mae 27 o achosion bellach wedi eu cadarnhau.
Beth yw E.coli?
Math o facteria yw E.coli sydd yn byw yn y coluddyn.
Yn ôl Sefydliad Iechyd y Byd, nid yw'r rhan fwyaf o fathau o E.coli yn achos niwed, ond gall rhai fel STEC achosi gwenwyn bwyd difrifol.
Gall heintiau sydd yn cael eu hachosi gan STEC achosi dolur rhydd gwaedlyd difrifol ac, mewn rhai achosion, cymhlethdodau mwy difrifol.
Mae'n aml yn cael ei drosglwyddo drwy fwyd ond gall hefyd gael ei ledaenu trwy gysylltiad agos â pherson sydd wedi ei heintio, yn ogystal â chysylltiad uniongyrchol ag anifail sydd wedi ei heintio.
Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi dweud eu bod yn "gweithio gyda'u partneriaid ar hyd y DU er mwyn dod o hyd i achos y lledaeniad".
Dywedodd Darren Whitby o'r Asiantaeth Safonau Bwyd bod y cwmnïoedd cynhyrchu bwyd wedi penderfynu gweithredu oherwydd bod yr asiantaeth yn cydweithio ag eraill i gynnal ymchwiliadau er mwyn dod o hyd i darddiad achosion newydd o E.coli.
Mewn datganiad, dywedodd llefarydd ar ran Greencore Group: “Fel rhagofal, rydym wedi penderfynu na ddylai nifer o frechdanau a ‘wraps’ gael eu gwerthu gan fod yna beryg posibl o ran diogelwch y bwydydd.”
Ychwanegodd y cwmni eu bod yn cydweithio’n “agos” gyda’r Asiantaeth Safonau Bwyd er mwyn dod o hyd i ffynhonnell “unrhyw broblem bosib”.