Arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig yn gofyn i Aelod o’r Senedd ‘gamu nôl’ o’i gabinet
Arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig yn gofyn i Aelod o’r Senedd ‘gamu nôl’ o’i gabinet
Mae arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig wedi gofyn i aelod o’r Senedd “gamu nôl” o gabinet yr wrthblaid wrth i ymchwiliad fynd rhagddo.
Mae Laura Anne Jones yn wynebu cwestiynau ynglŷn â hawlio treuliau fel rhan o’i swydd.
Daw hyn wedi i negeseuon testun ddod i'r amlwg sydd yn awgrymu ei bod wedi gofyn i aelod o staff wneud y mwyaf o geisiadau treuliau ar ei rhan.
Dyw Newyddion S4C heb weld cyd-destun llawn y negeseuon whatsapp er mwyn gwirio a ydyn nhw’n cynrychioli’r sgwrs yn llawn.
Mae cyfreithiwr Ms Jones yn dweud bod unrhyw honiadau o gamymddwyn ynglŷn â'i threuliau wedi eu camddehongli.
“Rwyf wedi gofyn i Laura Anne Jones gamu’n ôl o gabinet cysgodol y Ceidwadwyr Cymreig tra bod ymchwiliadau’n cael eu cynnal,” meddai Andrew RT Davies.
“Ni fyddwn yn gwneud unrhyw sylwadau ar unrhyw ymchwiliadau gweithredol sy’n cael eu cynnal.”
'Camddehongli'
Roedd datganiad gan ei chyfreithwyr yn dweud y byddai’n amhriodol i Ms Jones wneud sylwadau pellach tra bod ymholiadau’r heddlu yn parhau.
Ychwanegodd bod Ms Jones “yn fodlon bod yr honiadau o unrhyw weithred amhriodol o gwmpas y treuliau wedi eu camddehongli yn llwyr”.
Mae’r datganiad hefyd yn dweud nad oes gan Ms Jones “unrhyw broblem gyda’r BBC na’u ffynonellau yn rhoi’r honiadau hyn gerbron yr heddlu na’r Comisiynydd Safonau, gan roi cyfle iddi ymateb yn ffurfiol fel rhan o’r ymchwiliad".
Roedd Laura Anne Jones eisoes yn destun ymchwiliad gan Heddlu De Cymru. Nid oes unrhyw un wedi ei arestio ac mae'r ymchwiliad yn mynd rhagddo.
Daw hynny wedi iddi ddod i’r amlwg fis diwetha’ bod y Comisiynydd Safonau, sy’n gyfrifol am ymchwilio i gwynion am Aelodau’r Senedd, wedi pasio manylion ymlaen at yr heddlu, fel rhan o’i ymchwiliad o i honiadau am y ffordd wnaeth hi ddelio a chwyn o fwlio.