Newyddion S4C

Reform UK yn 'codi safle'n uwch na'r Ceidwadwyr' mewn cefnogaeth

14/06/2024
Nigel Farage

Mae arolwg barn newydd yn awgrymu bod plaid Reform UK wedi codi un safle'n uwch na'r Ceidwadwyr o ran cefnogaeth yn yr ymgyrch etholiadol.

Daw hyn wrth i Rishi Sunak barhau i fod yn absennol o'r ymgyrchu ag yntau yn cwrdd ag arweinwyr byd yn yr Eidal ar gyfer cynhadledd yr G7.

Mewn arolwg gan YouGov a gomisiynwyd gan bapur newydd The Times, roedd plaid Nigel Farage ar 19% gyda'r Ceidwadwyr ar 18% o ran bwriad pleidleisio, fydd yn ergyd arall i obeithion y Torïaid o ddychwelyd i lywodraeth.

Er eu mantais, nid oes disgwyl i Reform UK ennill nifer fawr o seddi yn yr etholiad gan bod eu cefnogaeth mor wasgaredig.

Fe wnaeth Nigel Farage ganmol y newyddion, gan honni mai ei blaid bellach yw’r “gwrthwynebiad i Lafur”, tra yn yr Eidal dywedodd y Prif Weinidog nad oedd yn teimlo’n ddigalon ynghylch ei obeithion yn yr etholiad ac y byddai “yn ôl ar drywydd yr ymgyrch” cyn gynted ag y byddai wedi dychwelyd o'r G7.

Dywedodd Mr Sunak wrth ohebwyr yn Puglia nad oedd “yn bendant” wedi colli gobaithi ar ôl dadl yr arweinwyr ar y teledu nos Fercher, pan awgrymodd arolwg barn mai Syr Keir Starmer ddaeth i’r brig.

Dywedodd y Prif Weinidog fod dewis “clir” rhwng ei gynnig ef a’r hyn sydd yn cael ei gynnig gan Lafur, a lansiodd eu maniffesto ddydd Iau.

Pan ofynnwyd iddo a oedd yn colli ymgyrchu ag yntau yn yr uwchgynhadledd ochr yn ochr ag arweinwyr Canada, Ffrainc, yr Almaen, yr Eidal, Japan a’r Unol Daleithiau, dywedodd: “Rhaid i chi allu gwneud y ddau beth yn y swydd hon.”

Ym mhôl piniwn YouGov, mae Llafur yn parhau i fod ar y blaen ar 37% o ran bwriad pleidleisio pobl, gyda’r Democratiaid Rhyddfrydol ar 14%, y Gwyrddion ar 7%, yr SNP ar 3%, Plaid Cymru ar 1% ac eraill ar 2%.

Cafodd 2,211 o oedolion eu holi ar draws Prydain rhwng 12 a 13 Mehefin.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.