Newyddion S4C

'Mae'r peth yn mynd i farw': Pryderon am ddyfodol is-adrannau bandiau pres

13/06/2024

'Mae'r peth yn mynd i farw': Pryderon am ddyfodol is-adrannau bandiau pres

Mae'n noson ymarfer i Academi Chwaraewyr Ifanc Band Pontarddulais.

Mae'r Academi'n tyfu a dros 50 o blant yn dod ynghyd i ymarfer yn gyson a pherfformio.

"Fi'n credu bod e'n lle neis i gymdeithasu.

"Mae'n neis gweithio mewn tîm ac mae'n sgil da iawn.

"Gallwn ni ddefnyddio fe am bywydau ni i gyd.

"Gall e fynd a ni'n bell yn y dyfodol."

Ffrwyth llafur aelodau hŷn y band yw llwyddiant y band iau.

Maen nhw'n helpu i fentora ond hefyd yn ymweld ag ysgolion lleol yn trafod cerddoriaeth ac offerynnau ac yn ceisio creu diddordeb ym myd y bandiau i ennyn chwaraewyr newydd.

"Mae lot o blant newydd wedi dod i'r band dros y ddwy flynedd dwetha.

"Mae'r committee wedi mynd mewn i'r ysgolion a chymuned neud cyngherddau, ni 'di cael dyddiau agored yn y band room gyda phobl yn dod i drio'r offerynnau.

"Mae lot o waith wedi mynd mewn i drio cael y chwaraewyr newydd ddod."

Ar ôl clywed am brinder bandiau yn y 4edd adran bandiau Cymru mae Band y Bont yn mynd ati i greu band newydd gyda'r chwaraewyr yma i gystadlu a chefnogi'r 4edd adran.

"'Na beth ni'n trio neud.

"Welon ni bod y bandiau'n wan ac mae cyfle gyda ni wneud rhywbeth am e."

Band newydd sbon?

"Efallai, ie."

Eisoes mae nifer o'r chwaraewyr ifanc yn edrych ymlaen.

Uchelgais nifer yw ymuno a'r band hyn.

"Cant y cant."

Ti'n siwr iawn am hynny!

Dyna ti ishe gwneud? Pam?

"Fi'n hoffi chwarae a bod yn rhan o'r gerddoriaeth i gyd a'r band."

Mae Band Crwbin yn un o'r bandiau sydd ar i fyny yn symud i adran uwch.

Maen nhw newydd gael dyrchafiad i'r ail adran.

Yng nghanol y dathlu mae pryder am beth sy'n digwydd yn yr adrannau is, yn enwedig y 4edd adran.

"Os na wnawn ni ddim byd, mae'r peth yn mynd i farw.

"Mae'r adran is, y 4edd adran, yn mynd i farw.

"Mae hi ar farw nawr.

"Does dim y pwll chwaraewyr ar gael iddyn nhw.

"Mae e mor drist a ni i gyd yn gofidio am y peth."

Nôl ym Mhontarddulais maen nhw'n paratoi am eu cyngerdd blynyddol.

Ochr yn ochr a'r band hyn, fe fydd talent y dyfodol hefyd yn serennu.

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.