Pryderon am gynllun gorsaf radar yn Sir Benfro
Pryderon am gynllun gorsaf radar yn Sir Benfro
Dyma fydd yr olygfa o Niwgwl a Solfach os ydy cynllun DARC yn mynd ymlaen yn Sir Benfro.
Dyna mae ymgyrchwyr yn erbyn yn ei honni o leiaf.
Fe gyhoeddodd y Gweinidog Amddiffyn nôl ym mis Rhagfyr mai baracs Cawdor ym Mreudeth yw'r safle sy'n cael ei ffafrio i godi'r orsaf newydd.
Mae'n rhan o gytundeb rhyngwladol gydag America ac Awstralia i fonitro'r hyn sy'n digwydd yn y gofod.
Mae'r Weinyddiaeth Amddiffyn am godi cyfanswm o 27 o ddesglau radar yma ar safle Breudeth.
Fe fyddan nhw'n 20m o uchder ac yn 15m o led.
Mae ymgyrchwyr yn pryderu y gallai'r radar pwerus gynhyrchu math o ymbelydredd sy'n niweidiol i bobl heb son am sarnu'r olygfa ar gyrion y Parc Cenedlaethol.
"Fydd yr effaith weledol ar Sir Benfro yn ofnadwy.
"Mae pryderon am iechyd pobl ac mae gyda ni ddewis.
"Hoffen ni weld Cymru yn datblygu i fod yn genedl heddwch.
"Ni ishe codi ymwybyddiaeth pobl a chefnogi'r ymgyrch yn lleol er mwyn canslo'r cynllun yn llwyr."
Yn ôl y Weinyddiaeth Amddiffyn bydd 100 o swyddi parhaol yn cael eu creu yn sgîl y safle newydd fydd yn gweithredu 24 awr y dydd.
Fydd y radar yn medru darganfod gwrthrychau o faint pel-droed hyd at 22,000 o filltiroedd i ffwrdd yn y gofod.
Cafodd cynllun gwahanol ar ddechre'r '90au i osod radar ym Mreudeth ei drechu yn dilyn ymgyrch leol egniol.
Tra'n gwrthwynebu'r cais newydd mae un o drigolion y dref hanesyddol Caerfarchell gerllaw yn cyfaddef bod y cyd-destun rhyngwladol wedi newid erbyn hyn.
"Beth oedd yn ein plaid ni yn 1991 oedd bod y perygl Rhyfel Oer yn tawelu.
"Ni wedi sylweddoli wrth y rhyfel yn Wcrain a phethau eraill nad yw'r perygl yna ddim bellach mor dawel ag y buodd e.
"Fyddai fe'n weladwy ac yn tanseilio'r harddwch naturiol a hefyd yr hanes ysbrydol sydd yma."
Mae arbenigwr ar ryfela yn y gofod yn dweud bod y dechnoleg yn hanfodol i gadw golwg ar yr hyn mae gwledydd eraill yn ei wneud.
"Mae wir angen y data byddai'r radars yn rhoi i ni o ran jyst edrych ar beth sy'n digwydd yn y gofod.
"Mae 'na ddefnydd sifil yn fan'na.
"Mae 'na fygythiad o wledydd fel Rwsia a Tsieina oherwydd maen nhw 'di hala'r 30 mlynedd dwetha yn gweithio ar arfau gwrth-lloerennol, anti-satellite weapons sydd yn targedu'n lloerennau ni ond hefyd mae gwledydd fel Wcrain yn dibynnu arno nawr."
Yn ôl y Ceidwadwyr, mae angen mwy o wybodaeth ar bobl yr ardal.
Bydd hi'n dalcen caled i'r Weinyddiaeth greu hyder yn y cynllun.
Dywedodd Plaid Cymru bydd y cynllun yn cael effeithiau negyddol ar gymunedau'r ardal ac y gallai olygu colli swyddi twristiaeth.
Mae Llafur hefyd wedi cael cais am ymateb.
Fe fydd angen asesiad o effaith amgylcheddol y cynllun ynghyd â chais cynllunio llawn i Gyngor Sir Penfro cyn y byddwn ni'n gwybod ai dyma'r safle fydd yn cynnig drych i'r hyn sy'n digwydd yn y gofod.