Cynllun i greu atyniad ymwelwyr yn hen waith dur Brymbo
Mae un o'r camau cyntaf i greu atyniad ymwelwyr yn hen waith dur Brymbo ger Wrecsam wedi cael sêl bendith cynghorwyr lleol.
Mae grŵp o gyn-weithwyr y safle a haneswyr lleol eisoes wedi sicrhau miliynau o bunnau i wneud y gwaith ar y safle, a gaeodd ym 1990, a mae criw o wirfoddolwyr eisoes wedi bod yn gwneud gwaith paratoi.
Rhan allweddol o'r datblygiad ydi creu siop, caffi, ac arddangosfa yn un o adeiladau hanesyddol y safle. Yn ogystal, bydd hen dŷ a siop hefyd yn cael eu haddasu i gynnig adnoddau i ymwelwyr. Nawr mae'r datblygiad wedi cael caniatad cynllunio gan gyngor Wrecsam.
Bydd y datblygiad hefyd yn cynnwys swyddfeydd a gweithdai i'w rhentu.
Yn y pen draw, y gobaith ydi y bydd y datblygiad hefyd yn cynnwys coedwig ffosiliau, sy'n dyddio nol tua 300 miliwn o flynyddoedd. Cafodd y coed eu darganfod yn 2003, a mae nhw wedi cael statws arbennig er mwyn eu diogelu.
Mae'r tir yn eiddo i gwmni Brymbo Developments Ltd, sydd eisoes wedi adeiladu cannoedd o dai ar dir cyfagos.
Mewn datganiad dywedodd y cwmni:"Mae ardal treftadaeth Brymbo, sydd yn rhan gogledd-orllewinol safle'r gwaith dur, wastad wedi cael ei ystyried fel rhan allweddol o'r cynllun ehangach gan berchnogion y tir, Brymbo Developments Ltd.
"Mae ganddo'r potensial i ddenu busnesau gwerth uchel, a rhoi hwb i ddenu buddsoddiad mewn adnoddau o safon."