Newyddion S4C

Erik Ten Hag i aros ymlaen fel rheolwr Manchester United

12/06/2024
Erik ten Hag

Bydd Erik Ten Hag yn aros ymlaen fel rheolwr clwb pêl-droed Manchester United.

Daw'r penderfyniad yn dilyn adolygiad diwedd tymor gan y clwb, proses a barhaodd am fwy na phythefnos.

Er bod rheolwyr eraill wedi cael eu cysidro, daeth yr adolygiad i'r casgliad y dylai'r gŵr o'r Iseldiroedd aros wrth y llyw.

Mae trafodaethau eisoes wedi dechrau ynglŷn ag ymestyn cytundeb Ten Hag, sydd ar fin cyrraedd ei dymor olaf.

Byddai modd i'r clwb ymestyn ei gytundeb am 12 mis arall.

Daeth Manchester United yn wythfed yn yr Uwch Gynghrair, sef eu safle isaf ers i'r Uwch Gynghrair gael ei sefydlu yn 1992. 

Bu'n rhaid i Ten Hag arwain carfan a oedd wedi ei heffeithio'n ofnadwy gan anafiadau trwy gydol y tymor.

Ond fe lwyddodd y tîm i gymhwyso ar gyfer Cynghrair Europa gyda buddugoliaeth annisgwyl yn erbyn Manchester City yn rownd derfynol Cwpan FA Lloegr.

Daeth yr adolygiad i'r casgliad bod Ten Hag yn haeddu cyfle i ddangos beth arall y gall ei wneud o fewn y strwythur chwaraeon newydd, a gafodd ei roi ar waith ar ôl i INEOS Syr Jim Ratcliffe gymryd gofal o weithrediadau pêl-droed y clwb. 

Llun: Wochit

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.