Etholiad 24: Y Blaid Werdd am godi trethi'r mwyaf cyfoethog
Mae'r Blaid Werdd wedi ymrwymo i godi trethi'r bobl fwyaf cyfoethog fel rhan o’u maniffesto a hynny mewn ymgyrch i “drwsio Prydain”.
Dywedodd y blaid y byddai codi’r dreth ar filiynyddion a biliwnyddion yn eu galluogi i gyflwyno gwelliannau i feysydd iechyd, tai, trafnidiaeth a’r economi ‘werdd’.
Cyn i’r blaid lansio ei maniffesto yn Brighton ddydd Mercher, dywedodd cyd-arweinydd Y Blaid Werdd, Adrian Ramsey, ei fod yn awyddus i greu system drethu decach gan ofyn i’r rheiny “gyda'r ysgwyddau mwyaf llydan i dalu mwy.”
Dywedodd: “Byddai'n well gan y blaid Lafur a’r Ceidwadwyr i guddio eu cynlluniau, fydd yn golygu toriadau i wasanaethau cyhoeddus, na mynd i’r afael â’r angen am system dreth decach sy’n gofyn i’r rhai sydd â’r ysgwyddau mwyaf llydan i dalu mwy.
“Mae hyn yn cynnwys y bobl fwyaf cyfoethog yn ein cymdeithas, a rheiny sydd wedi dod yn fwy cyfoethog fyth yn ystod yr 14 mlynedd diwethaf,” meddai.
Ychwanegodd cyd-arweinydd y blaid, Carla Denyer: “Fe fydd pethau yn parhau i waethygu dan arweinyddiaeth y blaid Lafur oni bai ein bod ni yn newid ein system drethu yn sylweddol.
“Mae pobl ifanc yn benodol yn ymwybodol o faint mae gwasanaethau rheng flaen Prydain wedi eu difetha.
“Dyw'r economi ddim yn gweithio iddyn nhw. Maen nhw wedi cael eu prisio allan o’r farchnad dai ac yn cael trafferth talu am eu haddysg.
“Dyma yw’r foment i fod yn uchelgeisiol – nid yn afrealistig, ond yn uchelgeisiol.”
Mae’r blaid hefyd wedi cyflwyno cynllun, o’r enw'r ‘Cynllun Pontio Economaidd Gwyrdd’, a fydd yn gweld cartrefi ar hyd a lled y DU yn cael eu huwchraddio o ran eu heffeithlonrwydd amgylcheddol.
Byddai'r cynllun yn sicrhau bod aelwydydd yn gynhesach ac yn rhatach i’w cynnal, meddai’r blaid.
Mae’r blaid eisoes wedi dweud y byddai’n gwario £50 biliwn y flwyddyn ar iechyd a gofal erbyn 2030. Maen nhw hefyd nawr yn eu dweud y byddan nhw’n gwarchod yr amgylchedd er lles y genhedlaeth nesaf drwy “atgyfodi byd natur.”
Llun: Jonathan Brady/PA Wire