Newyddion S4C

Taith ganser Amy Dowden yn destun rhaglen ddogfen newydd

12/06/2024
Amy Dowden

Bydd rhaglen ddogfen newydd yn dilyn taith y seren Strictly Come Dancing Amy Dowden wrth iddi frwydro yn erbyn ei diagnosis o ganser. 

Fe ddaw'r newyddion wedi i’r ddawnswraig 33 oed o Gaerffili gyhoeddi ei bod am ddychwelyd i raglen Strictly, ar ôl iddi orfod methu’r gyfres ddiwethaf oherwydd ei diagnosis. 

Bydd y rhaglen ddogfen awr o hyd – 'Amy Dowden: Fight Of My Life' – yn cael ei darlledu gan y BBC yn ystod yr haf.

 Fe fydd yn dilyn taith y Gymraes wrth iddi dderbyn triniaeth am ganser cyn dychwelyd i’r byd dawnsio. 

Fe gafodd Amy Dowden ddiagnosis o ganser wedi iddi ddod o hyd i lwmp yn ei bron, noson yn unig gyn iddi ddathlu ei Mis Mêl yn Ebrill 2023. 

Ym mis Mehefin y llynedd fe gyhoeddodd y ddawnswraig ei bod wedi cael llawdriniaeth mastectomi. 

Fis Tachwedd diwethaf, fe wnaeth rannu fideo ar y cyfryngau cymdeithasol yn dathlu diwedd cyfnod ei thriniaeth cemotherapi.

'Ysbrydoliaeth'

Wrth siarad am ei rhaglen ddogfen newydd, dywedodd Amy: “Flwyddyn yn ôl, roeddwn i’n briod ac ar fin dathlu fy Mis Mêl. Roedd yn bennod newydd gyffrous yn fy mywyd ond fe newidiodd bob dim ar ôl dod o hyd i lwmp yn fy mron.

“Wnes i erioed ddychmygu y bydden ni'n cael diagnosis o ganser yn fy oedran i,” meddai. 

“Ac er bod gen i ffrindiau ac aelodau’r teulu sydd wedi goroesi canser, doedd gen i ddim syniad o’r effaith y byddai'n ei gael ar fy mywyd. 

“Rwy’n gobeithio y bydd y rhaglen ddogfen yma’n helpu pobl i ddod o hyd i gryfder, ac yn annog pawb i wirio eu hunain, beth bynnag yw eu hoedran.”

Dywedodd Nick Andrews, pennaeth comisiynu BBC Cymru Wales fod Ms Dowden wedi dangos “cryfder” a “dewrder” diflino yn ystod y blynyddoedd diwethaf. 

Roedd caniatáu criw camera i'w dilyn ar ei thaith yn “ysbrydoliaeth,” meddai.

Byddai wedi bod yn “amhosib” creu’r rhaglen ddogfen heb “onestrwydd” Ms Dowden, ychwanegodd Paul Islwyn Thomas, prif weithredwr cwmni cynhyrchu Wildflame Productions

Bydd y rhaglen yn cael ei darlledu ar BBC One Wales, BBC One a BBC iPlayer yn ystod yr haf. 
 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.