Protestwyr yn gorchuddio wyneb y Brenin Charles gydag wyneb cymeriad cartŵn
Mae protestwyr wedi gorchuddio wyneb y Brenin Charles gydag wyneb y cymeriad Wallace, sy'n rhan o'r ddeuawd animeiddiedig adnabyddus Wallace and Gromit.
Fe wnaeth mudiad Animal Rising rannu fideo o ymgyrchwyr yn gludo llun o wyneb Wallace dros wyneb y Brenin.
Mae'r portread diweddaraf yn cynnwys dyfyniad arno, a hynny yn dweud: "Dim caws, Gromit. Edrycha ar yr holl greulondeb yma ar ffermydd yr RSPCA!"
Mae'r portread yn cael ei arddangos yn gyhoeddus yn Oriel Phillip Mould yn Llundain.
Mae Animal Rising yn disgrifio ei hun fel sefydliad di-drais sy'n gweithio tuag at ddyfodol cynaliadwy lle mae dynoliaeth yn rhannu perthynas bositif gydag anifeiliaid a natur.
Mewn ymateb i'r digwyddiad, dywedodd llefarydd ar ran yr RSPCA: "Cawsom ein syfrdanu gan y fandaliaeth yma o bortread Ei Fawrhydi y Brenin Charles, ein noddwr.
"Rydym yn croesawu craffu ar ein gwaith, ond ni allwn esgusodi gweithgarwch anghyfreithlon o unrhyw fath.
"Mae ein staff a'n gwirfoddolwyr yn gweithio'n galed iawn yn achub, gofalu am anifeiliaid a siarad ar eu rhan.
"Mae gweithgarwch parhaus Animal Rising yn tynnu ein sylw oddi ar ein ffocws ar y gwaith sy’n wirioneddol bwysig – gan helpu miloedd o anifeiliaid bob dydd."