Newyddion S4C

Pum dyn - a pharot - yn seiclo cannoedd o filltiroedd er cof am blentyn 17 oed

ITV Cymru 11/06/2024
Y pump a'r parot

Mae pum dyn a pharot ar daith beics o Gymru i Gernyw fel rhan o daith er cof am blentyn 17 oed fu farw.

Bydd y parot Kiki a’r dynion yn teithio o’r Fenni yn Sir Fynwy i Cambourne yng Nghernyw i godi arian ar gyfer Asthma + Lung UK.

Trefnodd Mel Sussex, sy’n 74 oed, yr her er mwyn codi arian er cof am ei ŵyr, Gavin, fu farw’n 17 oed ar ôl dioddef pwl o athsma yn ei gartref yng Nghernyw. 

Ar ôl dechrau ddydd Llun maen nhw’n disgwyl teithio 240 milltir cyn cyrraedd pen eu taith.  

Mae Mel yn ymgymryd â’r her fel rhan o’i rôl fel capten Clwb Golff Sir Fynwy yn y Fenni. 

Dywedodd fod ei ŵyr wedi’i fagu yng Nghernyw, felly, fe wnaeth o feddwl “y byddai’n syniad da er cof amdano i seiclo o’r Fenni i Cambourne”.

Bydd Mel yn cael cwmni ei fab Bradley, ei fab-yng-nghyfraith Mark Edwards, ei nai Sam Blowers, a’i frawd-yng-nghyfraith - a pherchennog y parot - Paul Blowers.

“Mae pawb eisiau gweld y parot ac maen nhw eisiau mwytho’r parot a’i ddal yn eu llaw,” meddai Mel.

“Hyd yma, dydy e ddim wedi brathu unrhyw un eto!”

Yn ôl Sam, nid dyma’r tro cyntaf i Kiki fod ar daith, a'u bod nhw wedi parot-toi o flaen llaw. 

“Mae’n mynd allan i seiclo gyda fi a fy nhad o hyd," meddai.

“Felly, mae e wedi dod i arfer â hi mewn ffordd - mae wirioneddol wrth ei fodd.”

‘Cyflymder’

Mae’r tîm wedi codi mwy na £4,000 yn barod i’r elusen ers iddyn nhw ddechrau’r ymgyrch ddiwedd Mai. 

Dywedodd Mel: “Ry’n ni’n grŵp oedrannus gyda dau ifanc yn ein llusgo ar eu holau, ond mae’n rhaid i ni eu cadw dan reolaeth a’u bod nhw yn gosod y cyflymder i ni. 

“Yn ôl Asthma + Lung UK, bydd gan un ymhob pum person yn y DU gyflwr ar yr ysgyfaint ar ryw gyfnod yn eu bywydau.”

Wrth roi teyrnged i waith yr elusen, dywedodd Mel: “Dw i eisiau codi arian ar gyfer yr holl blant sy’n dioddef o’r cyflwr yma.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.