Newyddion S4C

Galw am adnewyddu safle sy’n darparu llety i rieni sydd â babanod mewn uned gofal dwys

11/06/2024

Galw am adnewyddu safle sy’n darparu llety i rieni sydd â babanod mewn uned gofal dwys

"O'dd hi ar beiriant anadlu yno a buon ni yno am saith wythnos.

"Ddim yn gwybod ar y pryd os o'dd hi'n mynd i ddod adref."

Mari Glyn yw byd ei rhieni, Bethan a Carwyn Evans.

"Mari Glyn."

Ond mae'r daith i gyrraedd y fan hon wedi bod yn un hir.

Ar ôl treulio saith wythnos mewn ysbyty ym Mryste cafodd Mari ei symud i Ysbyty Singleton.

Er yn agosach i adref, roedd hi'n awr o siwrnai o gartre'r teulu yn Llangynnwr ger Caerfyrddin.

Cafodd Bethan a Carwyn gynnig llety yn Cwtsh Clos ar safle'r ysbyty er mwyn cadw'n agos at Mari.

"Ni'n ddiolchgar tu hwnt o fod dafliad carreg wrth ein merch.

"Hwnna yw'r peth pwysica i weud.

"Ond mae rhiant sy'n mynd trwy broses neonatal, mae'n ddwys iawn a ti angen rhywle i switsho off am gyfnod.

"Mae'n deg i ddweud taw basic iawn o'dd beth o'dd 'na i ni.

"Hyn a hyn o'n i'n gallu coginio heb ffwrn, er enghraifft.

"'Sdim byd ti'n gallu wneud ond bod 'na iddi ond ti'n moyn bod 'na.

"'Sdim ots pa mor bell o'r ysbyty, oedd e ddim yn opsiwn."

Dyma ran o'r siwrnai byddai Bethan a Carwyn wedi gwneud ddwywaith y dydd heb eu llety nhw yn Cwtsh Clos.

Yn ogystal â'r straen emosiynol mae un elusen wedi dweud bod cael babi mewn uned newydd enedigol yn straen ariannol i nifer o deuluoedd gan gostio ar gyfartaledd dros £2,200 yn ychwanegol iddyn nhw.

Draw yn Cwtsh Clos, mae cronfa Bwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe i godi arian ar-lein wedi codi dros £30,000 i adnewyddu'r lle.

Eu targed yw £160,000.

"Ni'n gwybod bod babis sy'n cael eu rhieni'n agos ar yr uned lle mae'r rhieni'n gallu bod gyda babis nhw yn neud yn well.

"Hefyd, mae iechyd meddwl a iechyd emosiynol y rhieni yn helpu datblygu'r babanod."

Meddai Llywodraeth Cymru taw'r byrddau iechyd sy'n gyfrifol am gynllunio a darparu gofal gan gynnwys trefnu llety i rieni.

Bydd Carwyn yn rhedeg o Fryste i Langynnwr i godi arian i Gwtsh Clos.

Yn y flwyddyn nesaf, bydd Mari Glyn yn paratoi i fynd i'r ysgol.

Wrth iddi afael yn dynn yn ei dyfodol gobaith y teulu yw gwella'r gofal fydd ar gael i deuluoedd eraill... un cam ar y tro.

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.