Newyddion S4C

Vaughan Gething ddim am ymddiswyddo wedi colli pleidlais o ddiffyg hyder

10/06/2024

Vaughan Gething ddim am ymddiswyddo wedi colli pleidlais o ddiffyg hyder

Vaughan Gething.

Cyn-gyfreithiwr, cyn-Weinidog Iechyd a chyn-Weinidog Economi Cymru.

A'r Prif Weinidog du cyntaf drwy Ewrop.

Dechrau sigledig sydd wedi bod i'w daith fel arweinydd Llafur Cymru.

Ym mis Chwefror daeth i'r amlwg fod ei ymgyrch wedi derbyn £200,000 gan un o gwmniau'r dyn yma.

Roedd David Neal yn euog o droseddau amgylcheddol ddwywaith.

Gydag ychydig dros hanner y bleidlais, 51.7% fe drechodd e Jeremy Miles gan ddod yn arweinydd Llafur Cymru ac yn ei dro yn Brif Weinidog.

Doedd dim diwedd ar y trafod am y rhoddion i'w ymgyrch.

Ar ôl i negeseuon testun gael eu rhannu gyda'r wasg ga'th Hannah Blythyn sac o'i gabinet.

Er iddi wadu bod yn gyfrifol.

Yna, Plaid Cymru yn ymateb gan ddod a'r cytundeb cydweithio i ben ar unwaith.

Fel arfer, Llafur yn ganolog fyddai 'di derbyn yr arian dros ben o'r ymgyrch ond tro 'ma, mae'r gweddill ychydig dros £30,000 wedi'i roi i achosion da.

Dro ar ôl tro, mae Mr Gething yn mynnu iddo wneud dim o'i le.

Ddoe...

"I am confident about tomorrow,
I look forward to the debate."

..roedd e'n dal ei dir.

Prynhawn 'ma yn y Senedd roedd y Ceidwadwyr wedi galw am bleidlais o ddiffyg hyder yn y Prif Weinidog.

Pleidlais symbolaidd oedd hi a dim rheidrwydd arno i ymddiswyddo.

Ond gyda'r gwrthbleidiau'n dweud y bydden nhw'n pleidleisio yn ei erbyn e roedd llygaid pawb ar y meinciau Llafur.

Gydag aelodau Llafur yn llenwi union hanner y Siambr byddai Mr Gething yn colli petai un yn ei wrthwynebu neu ymatal.

Roedd dau wyneb amlwg ar goll.

Hannah Blythyn ga'th ei diswyddo ganddo a Lee Waters sydd wedi beirniadu'r rhoddion i'w ymgyrch.

Roedd cefnogaeth gan aelodau eraill gyda Mr Gething yn amlwg dan bwysau a dan deimlad.

Beirniadaeth nid cydymdeimlad oedd gan y gwrthbleidiau.

"This is a motion put down in opposition time that may well not be binding but will send a message on the transparency, honesty and judgement call of the First Minister since he assumed office."

"Mae heddiw yn ddiwrnod difrifol yn hanes y Senedd am ein bod ni o'r farn fod y Prif Weinidog wedi colli nid yn unig ein hyder ni ond hyder dinasyddion Cymru."

Gan y Prif Weinidog ei hun doedd dim ymddiheuriad.

Ond yn hytrach ymosodiad ar y Ceidwadwyr a Plaid Cymru cyn awgrymu mai hiliaeth oedd wrth wraidd y feirniadaeth ddiweddar.

"Our lived experience should matter and be respected.

"We still have a very long way to go.

"Mae gennym ffordd bell i fynd."

Ond gyda dau aelod Llafur ddim yn pleidleisio colli'r bleidlais na'th y Prif Weinidog.

"O blaid, 29. Neb yn ymatal. 27 yn erbyn.

"The motion is therefore agreed."

"Dyma swydd bwysicaf ein cenedl.

"Gobeithio wneith Vaughan Gething adlewyrchu heno.

"Wrth gwrs mae'n anodd iddo fo.

"Mi o'dd gen i gydymdeimlad ar lefel bersonol yn gweld o yn ei ddagrau ond rhaid iddo gymryd cyfrifoldeb."

"Gobeithio bydd e'n dangos parch i'r Senedd heno ac yn clywed beth mae'r Senedd yn dweud wrtho bod dim digon o hyder yn ei arweinyddiaeth.

"Mae hynna'n bwysig iawn."

Er gwaethaf marciau cwestiwn mawr am ei ddyfodol sefyll yn gadarn mae'r Prif Weinidog.

"I'm gonna carry on doing my duty.

"I am fiercely proud to be the First Minister of Wales and to have the opportunity to serve and lead my country."

"Fi'n meddwl bod y pwysau ar Vaughan Gething i roi'r gorau iddi yn hwyr neu'n hwyrach yn mynd i arwain at dranc ei yrfa.

"P'un ai a fydd hynny'n digwydd mewn oriau neu ddyddiau wythnosau neu fisoedd, mae 'na gwestiynau ynghylch hynny.

"Mae'n amhosib dychmygu Vaughan Gething yn arwain Llafur Cymru mewn i etholiad i Senedd Cymru gyda hwn yn eistedd ar ei ysgwydd."

Mae Vaughan Gething heno yn teithio dros nos i Normandy a dathliadau D-Day.

Ar ôl colli brwydr heddi yn y Senedd, bydd rhaid ymladd eto i achub ei swydd fel Prif Weinidog Cymru.

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.