Newyddion S4C

Chwarter o weithwyr ambiwlans wedi gweld cleifion yn marw oherwydd oedi mewn ysbytai

10/06/2024
Gwasanaeth Ambiwlans Cymru

Mae un ym mhob pedwar o weithwyr ambiwlans wedi gweld cleifion yn marw oherwydd oedi yn yr ysbyty dros y tair blynedd diwethaf, yn ôl ymchwil newydd.

Mae’r arolwg hefyd wedi canfod fod dau allan o bob pum gweithiwr iechyd wedi treulio shifft gyfan yn disgwyl y tu allan i uned achosion brys.

Fe wnaeth 3,000 o aelodau’r undeb GMB ar draws y DU ymateb i’r arolwg.

Ac mae rhai sydd yn gweithio yn y maes iechyd wedi rhannu eu profiadau.

Fe wnaeth un person sôn ei bod wedi cyrraedd galwad ac roedd y claf wedi dioddef ataliad ar y galon. Roedd y claf wedi cael ei gategoreiddio yn un ‘côd melyn’ am 10 awr. Ond pan wnaeth y gweithiwr gyrraedd roedd wedi marw, mewn rigor mortis a gyda’r ffôn yn canu yn llaw'r claf.

Fe ddywedodd gweithiwr arall fod cleifion yn marw ar goridorau ysbytai yn rheolaidd. Roedd cleifion eraill wedi cael eu gadael mewn ambiwlans y tu allan i ‘r ysbyty am ddyddiau. 

Roedd rhai cleifion wedi cael eu cynghori i wneud eu ffordd eu hunain i’r ysbyty yn hytrach na aros cyfnod hirach am ambiwlans, cyn iddyn nhw farw ar y ffordd i’r ysbyty.

Yn ôl yr astudiaeth mae saith allan o 10 o staff ambiwlans wnaeth ymateb, gan gynnwys staff canolfannau galwadau, wedi ystyried gadael yn ystod y flwyddyn ddiwethaf.

Bydd yr arolwg yn cael ei drafod yng nghyngres flynyddol yr undeb yn Bournemouth ddydd Llun.

Dywedodd Rachel Harrison, swyddog cenedlaethol y GMB: “Mae’r straeon ofnadwy, dirdynnol rhain gan ein haelodau yn y gwasanaeth ambiwlans yn datgelu sefyllfa arswydus ein Gwasanaeth Iechyd.

“Pwy bynnag fydd yn ennill yr etholiad fis nesaf, mae angen i ni fuddsoddi’n iawn yn ein GIG os ydyn ni am ei gadw’n fyw – ac mae hynny’n dechrau yn bennaf oll drwy fuddsoddi yn y gweithwyr eu hunain.”

‘Y gofal brys iawn’

Daw’r canfyddiadau’r arolwg wedi i Lywodraeth Cymru gyhoeddi ddydd Llun fod 200,000 o bobl wedi defnyddio gwasanaethau newydd y GIG, fel dewis arall yn lle mynd i adran achosion brys neu'r ysbyty am ofal, dros y flwyddyn ddiwethaf.

Image
Eluned Morgan
Eluned Morgan, Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd

Mae’r rhaglen, Chwe Nod ar gyfer Gofal Brys a Gofal mewn Argyfwng, ar ddechrau ei thrydedd flwyddyn. Y bwriad yw canolbwyntio ar 'leihau oedi' wrth drosglwyddo cleifion o gerbydau ambiwlans, a mynd i afael â’r amseroedd aros hiraf yn adrannau achosion brys Cymru.

Yn ôl y ffigyrau’r llywodraeth, mae’r cyfnod cyfartalog y mae cleifion yn aros yn ysbyty wedi lleihau o 8.5 diwrnod i saith diwrnod.

Dywedodd Eluned Morgan, Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd: "Bob dydd, mae miloedd o bobl yng Nghymru yn cael gofal iechyd brys ac argyfwng o ansawdd uchel. 

“Mae'n hanfodol bwysig eu bod yn cael y gofal iawn, yn y lle iawn, y tro cyntaf ac nid yw hynny bob amser yn golygu'r adran achosion brys.

"Dyna pam rydyn ni'n buddsoddi mewn gwasanaethau fel 111 a chanolfannau gofal sylfaenol brys drwy'r rhaglen Chwe Nod.

"Er gwaethaf y galw di-baid ar wasanaethau, mae'r newidiadau hyn wedi helpu i sefydlogi perfformiad adrannau achosion brys. Wedi dweud hynny, rydyn ni'n gwybod bod llawer mwy i'w wneud eto.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.