Newyddion S4C

Chwilio am wyth awr yn dilyn pryderon fod person wedi mynd i’r dŵr yn Afon Menai

09/06/2024
Afon Menai

Mae’r heddlu yn apelio am wybodaeth yn dilyn pryderon fod person wedi mynd i’r dŵr yn Afon Menai nos Sadwrn.

Fe wnaeth Heddlu Gogledd Cymru dderbyn galwad toc wedi 23.00 gan aelod o’r cyhoedd oedd yn pryderu y gallai fod yna unigolyn wedi mynd i’r dŵr.

Cafodd Gwylwyr y Glannau eu galw o Gaergybi a Bangor, yn ogystal â chriw bad achub o RNLI Biwmares a hofrennydd achub Heddlu Gogledd Cymru.

Ar ôl cynnal chwiliad “drwyadl” o’r ardal o gwmpas Pont Menai “o’r tir, môr a’r awyr” am wyth awr, daeth yr ymgyrch i ben fore Sul heb ddod o hyd i unrhyw berson.

Mae’r heddlu'n parhau a’u hymholiadau i geisio canfod os gwnaeth unrhyw berson fynd i’r dŵr ai beidio.

Mae’r heddlu wedi gofyn i unrhyw un sydd wedi gweld person yn ymddwyn mewn ffordd amheus nos Sadwrn, neu yn mynd i’r dŵr, i gysylltu â nhw, gan ddyfynnu’r cyfeirnod Q082838.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.