Clo Caerdydd Seb Davies wedi'i wahardd am dair gêm
Mae clo Caerdydd a Chymru Seb Davies wedi cael ei wahardd o dair gêm ar ôl iddo dderbyn cerdyn coch yn erbyn y Gweilch ym Mhencampwriaeth Rygbi Unedig ar 1 Mehefin.
Cafodd Davies, ddaeth ymlaen fel eilydd, ei anfon o’r maes am dacl beryglus ar Owen Watkin yn hwyr yng ngêm Dydd y Farn yn Stadiwm Dinas Caerdydd.
Derbyniodd Davies, sydd wedi ennill 17 cap dros Gymru, y drosedd ac fe gafodd waharddiad o dair wythnos yn hytrach na chwe wythnos.
Bydd y gwaharddiad yn cael ei gwtogi wythnos arall pe bai Davies yn cwblhau Rhaglen Ymyrraeth Hyfforddi Rygbi'r Byd.
Ni chafodd y clo ei ddewis yng ngharfan Cymru ar gyfer gemau'r haf.
Ni fydd Davies yn colli unrhyw gemau cystadleuol oherwydd bydd y gwaharddiad mewn grym yn ystod y cyfnod cyn tymor 2024-25.
Llun: Asiantaeth Huw Evans