Newyddion S4C

'Gormodedd' o fusnesau llety gwyliau ar Ynys Môn, medd cynghorwyr

08/06/2024
Biwmares

Mae cynghorwyr Ynys Môn wedi dweud fod rhan ddwyreiniol y sir wedi ei "gor-redeg" gan fusnesau llety gwyliau.

Wrth ystyried cynllun “dadleuol” i greu llety gwyliau mewn capel ym mhentref Llangoed, fe wnaeth cynghorwyr sir honni bod ardaloedd Llangoed, Penmon, Biwmares a Llanddona eisoes wedi eu “gor-redeg” gan fusnesau gwyliau, gan gynnwys tai Airbnb.

Cafodd y cynnig i addasu Capel Jerwsalem yn dri fflat gan Baby Bird Development Ltd o Fanceinion, yng nghanol Llangoed ei wrthod gan y pwyllgor cynllunio'r wythnos hon.

Daw yn dilyn gwrthwynebiadau lleol ynghylch materion traffig a pharcio a phryderon ynghylch “gormodedd” o osodiadau gwyliau yn yr ardal. 

Dywedodd rheolwr adran gynllunio Cyngor Môn, Stephen Owen, fod cynllun busnes wedi dangos cais “hyfyw” ac y byddai’n helpu i ddod ag adeilad gwag o’r 19eg ganrif yn ôl i ddefnydd.

Image
Capel Jerwsalem, Llangoed
Capel Jerwsalem, Llangoed (Llun: Google)

Nododd fod nifer yr ail gartrefi a llety gwyliau hunanarlwyo yn ardal cyngor cymuned Llangoed yn 15.36% - ychydig yn unig yn uwch na'r trothwy 15%. 

Ond, fe wnaeth cynghorwyr herio’r cais yn frwd, gan ddadlau bod caniatáu mwy o lety gwyliau uwchben y trothwy yn “gosod cynsail peryglus” ac yn “annog” fwy o geisiadau.

Roedd y cyngor cymuned wedi pleidleisio yn erbyn y cais, ac roedd y datblygiad wedi denu 82 o wrthwynebiadau lleol, ac un llythyr o gefnogaeth.

Ymysg y rhesymau a godwyd dros wrthwynebu roedd parcio annigonol, ffordd beryglus, effaith ar gymdogion, sŵn, gorddarpariaeth o lety gwyliau a lleoliad anaddas ar gyfer llety gwyliau.

Fe wnaeth y cynghorwr Jeff Evans cynnig i gymeradwyo'r cais gan ddweud nad oedd eisiau gweld yr adeilad yn "dirywio ymhellach", ond ni chafodd y cais ei eilio. Fe bleidleisiodd aelodau o blaid  ei wrthod.

'Gorddarpariaeth'

Dywedodd y Cynghorydd Carwyn Jones: “Mae hon yn ardal breswyl, nid rhyw ardal dwristiaeth. Mae pobl yn byw yma, naill ochr i’r capel.

“Mae gorddarpariaeth - y ffigwr swyddogol yw 15.36 y cant, ond tydi hynny ddim yn cynnwys Airbnb’s. Pe bai hynny'n cael ei gynnwys, byddai'n golygu bod bron i chwarter yr eiddo yn llety gwyliau mewn gwirionedd.

“Nid oes angen mwy o letyau gwyliau arnom, mae Llangoed a Phenmon yn ardal breswyl, nid rhai pentref gwyliau.

“Beth fydd yn digwydd yn yr haf pan fydd poblogaeth Ynys Môn yn mynd i dros chwarter miliwn y dydd?”

Dywedodd y Cynghorydd Robin Williams: “Wrth chwilio’n sydyn ar fy ffôn am lefydd i aros yn ardal Llangoed, Penmon a hyd at Landdona, mae 102 o unedau Airbnb yn cael eu hysbysebu rhwng Medi 23 a 27.

“Mae’n debyg bod gwir ffigwr llety gwyliau yn ardal Seiriol 25 y cant yn uwch. Rydym wedi ein gor-redeg gan unedau gwyliau, mae angen i ni atal hyn.”

Llun: Stephen McKay/Wikimedia

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.