
Cau strydoedd Caer ar gyfer priodas Dug Westminster
Roedd nifer fawr o strydoedd Caer wedi eu cau ddydd Gwener ar gyfer priodas Dug Westminster.
Roedd Tywysog Cymru ymysg y gwahoddedigion yng Nghadeirlan Caer ar gyfer y briodas.
Roedd y Tywysog yno i ddathlu priodas Hugh Grosvenor, mab bedydd y Brenin Charles III, ac Olivia Henson yn yr eglwys gadeiriol.
Mae'r Dug 33 oed yn dad bedydd i'r Tywysog George, ond nid oedd y Tywysog yn bresennol yn y seremoni gan ei fod yn ddiwrnod ysgol.

Mae'r dug yn cael ei ystyried yn un o'r bobl gyfoethocaf yn y DU, gyda ffortiwn o tua £10bn, tra bod y briodferch yn gweithio yn y diwydiant bwyd a diod cynaliadwy.
Yn ogystal â bod yn dad bedydd i'r Tywysog George, dywedir hefyd fod y Dug yn dad bedydd i fab y Tywysog Harry.
Nid oedd y Tywysog Harry, a oedd yn dywysydd gyda'i frawd ym mhriodas chwaer Dug Westminster, Lady Tamara Grosvenor yn 2004, yn bresennol yn y gwasanaeth.
Ni fynychodd y Brenin na'r Frenhines Camilla y gwasanaeth, ar ôl teithio i Normandi ar gyfer coffau D-Day ddydd Iau.
Roedd Tywysoges Cymru, sy'n derbyn triniaeth am ganser, hefyd wedi methu a bod yn bresenol.

Cafodd dwy ddynes eu tynnu o’r dorf gan yr heddlu ar ôl i gwmwl oren ymddangos o ddyfais tebyg i ddiffoddwr tân wrth i’r cwpl adael yr eglwys gadeiriol.
Dywedodd y grŵp ymgyrchu Just Stop Oil fod dau o’u cefnogwyr wedi defnyddio’r dyfeisiau i daflunio paent powdr ger mynedfa'r gadeirlan.
Dywedodd Heddlu Sir Gaer fod dynes 69 oed o Fanceinion a dynes 73 oed o Suffolk wedi cael eu harestio ar amheuaeth o droseddau yn ymwneud â'r drefn gyhoeddus, a’u bod yn parhau yn y ddalfa.